Dewi Llwyd ag Iwan Bala
Fel mae ei enw'n awgrymu, ym Mhenllyn y mae gwreiddiau'r arlunydd Iwan Bala. Ac mae'r blynyddoedd cynnar hynny wedi dylanwadu'n drwm ar ei waith. Ond yng Nghaerdydd y mae ei gartref erbyn hyn, ac yno gyda'i wraig (sydd o dras Roegaidd) a'i blant y mae fel arfer yn treulio'r Sul.
Weithiau mae cyfle i fynd draw i'r stiwdio sydd ganddo yn ardal y Bae, ond mae'n gresynu nad oes modd mynd yno'n amlach.
Mae'n cydnabod nad yw ei ddarluniau'n rhad, ond fel aml i artist mae'n gorfod derbyn mai dim ond cyfran ohonynt sy'n cael eu gwerthu.
Ers pedair blynedd bellach mae Iwan yn cael boddhad aruthrol wrth ddysgu myfyrwyr celf ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
Yno hefyd mae'n cael cyfle i ysgrifennu am y pwnc sydd mor agos at ei galon. Wedi diwrnod yn darlithio 'dydy troi at waith arlunio ddim yn hawdd.
Ond yn aml bydd y dasg o baratoi ar gyfer arddangosfeydd yn sbardun iddo ac yn sicrhau fod gwaith newydd yn dod i'r fei yn rheolaidd.
Mae'n siomedig nad oes mwy o bobl yn gwerthfawrogi celf gyfoes, ac yn galw arnyn nhw i wneud mwy o ymdrech i ddeall yr hyn y mae'r artist yn ceisio ei gyfleu.
Ar waetha hynny mae'n teimlo'n freintiedig ei fod yn cael ymhel yn ddyddiol a'i ddiddordeb pennaf, sef celf.