Dewi Llwyd a Tara Bethan
Cyfnod prysur o waith oedd y Nadolig i'r gantores a'r actores ifanc o Lansannan, Tara Bethan. Fel mae wedi gwneud o'r blaen roedd yn chwarae un o'r prif rannau mewn pantomeim yn Theatr y Rhyl. Ond er ei bod wedi mwynhau Peter Pan yn aruthrol roedd yn cydnabod hefyd fod hedfan uwchben y gynulleidfa mewn harnais amryw o weithiau bob dydd yn brawf ar ei stamina a'i stumog!
Yn ferch i'r reslwr Orig Williams, fe ddechreuodd Tara gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn bum mlwydd oed gan brofi'n fuan iawn ei bod yn gallu dawnsio yn ogystal a chanu a llefaru. Erbyn heddiw mae'n priodoli cryn dipyn o'i llwyddiant i'r profiad gwerthfawr a gafodd wrth gystadlu.
Ar ôl graddio o Goleg Ivor Novello yn Llundain, Redroofs Theatre School, cyrhaeddodd y deuddeg ymgeisydd olaf yn y rhaglen deledu 'I'd Do Anything' cyn mynd yn ei blaen i deithio ar hyd a lled Prydain gyda'r sioe gerdd Joseff.
Fel un sydd hefyd yn cyflwyno'n gyson ar S4C, mae Tara bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn ei sgwrs a Dewi awgrymodd mai agwedd feriniadol rhai Cymry Cymraeg tuag at y Saeson a'r Saesneg oedd yn ei gwylltio fwyaf.