Cyfweliad Penblwydd Gwyn Elfyn
Yn dathlu ei benblwydd ar Chwefror 29ain mae Gwyn Elfyn yn honni mai tua 12 oed yw ar hyn o bryd!
Er mai acen ddeuheuol sydd gan ei gymeriad Denzil yn Pobl y Cwm, gan iddo gael ei fagu yn y gogledd hyd nes oedd o'n 8 oed mae Gwyn yr un mor gyffyrddus yn siarad Cymraeg gydag acen ogleddol!
Yn fab y mans, mae'n parhau a chysylltiadau cryf a'r capel ac yn ysgrifennydd Capel Seion Drefach.
Pan yn yr ysgol gynradd ei ddyhead oedd cael bod yn gowboi neu beldroediwr, ond erbyn yr ysgol uwchradd ffermio neu chwarae rygbi oedd yn mynd a'i fryd! Ac er na chafodd yr actor y cyfle i ddilyn yr un o'r gyrfaon hyn, mae'n ddiolchgar am waith cyson Pobl y Cwm.
Yn ystod y blynyddoedd mae wedi mwynhau cael actio cymeriad sydd wedi wynebu sawl her, o drafferthion ar y fferm i werthu'r siop a'r un mwyaf dirdynnol, colli plentyn yn y crud.
Fel rhywun sy'n hoff iawn o geir ei anrheg penblwydd delfrydol fyddai Austin Martin neu fe hoffai weld pawb yng Nghymru yn siarad Cymraeg fe fyddai hynny'n anrheg penblwydd am oes!
Darlledwyd y cyfweliad 27.02.11