Cyfweliad Penblwydd Sioned Mair
Doedd Sioned ddim yn coginio pan oedd hi'n ifanc, a doedd ganddi fawr o ddiddordeb yn y maes nes y bu'n rhaid iddi fwrw ati ar ol priodi! Cyn cyflwyno eitem goginio ar raglen Wedi 3, mae hi'n paratoi drwy arbrofi ar y teulu gartref.
Yn ogystal a choginio mae Sioned yn brysur yn gwneud gwaith cyhoeddi ar S4C ac yn gweithio i lywodraeth y Cynulliad yn hybu bwyd. Mae cadw'n heini'n bwysig iddi. Bydd yn ymweld a'r gampfa'n gyson ac mae wrth ei bodd yn cerdded gyda'i gwr Russell Isaac yn ardal Sir Benfro.
Fel rhywun a ddaeth i amlygrwydd fel cantores gyda'r grwp Sidan pan oedd yn 17 oed, mae Sioned yn bendant fod y cyfnod prysur hwnnw wedi lliwio ei bywyd a'i gwneud yr hyn ydi hi heddiw. Yn fam i dri o blant, mae dau fab yn rhannu ei diddordeb mewn cerddoriaeth ac yn aelodau o fand Cuba Cuba.
Mae Sioned hefyd yn parhau i ganu yn achlysuor ac yn mwynhau yn arw. Anrheg Penblwydd delfyrdol Sioned fyddai llyfr coginio!