Cyfweliad Penblwydd Linda Griffiths
Cyn iddi ddathlu ei phenblwydd bu Dewi draw ym Mhenbontrhydybeddau, Ceredigion, yn holi'r gantores Linda Griffiths.
Yn un o'r triawd yn y grwp gwerin Plethyn mae hi'n fwy adnabyddus fel Linda Healy, ond wedi ei hysgariad penderfynodd fynd nôl i ddefnyddio ei henw bedydd.
Er nad yw Plethyn yn dal i berfformio mae Linda yn parhau i ganu, ar ei phen ei hun neu gyda'i merched.
Yn fam i dair o genod, mae wrth ei bodd eu bod nhw wedi cael magwraeth wledig ddigon tebyg i'r un a gafodd hi ym Maldwyn.
Mae Linda'n gweithio'n llawn amser fel cyfieithydd, gan fwynhau bod yn fos arni hi ei hun sy'n ei galluogi i dreulio ambell brynhawn yn mynd a'r ci am dro ac yna'n gweithio gyda'r nos!
Ei hanrheg penblwydd delfrydol fyddai cael treulio dyddiau lawer yn marchogaeth gan gyfarfod ambell ffrind da ar y ffordd!