Cyfweliad penblwydd Manon Rhys
A hithau newydd symud ty ac wedi cael cyfnod prysur yn clirio, gobeithio treulio ei phenblwydd yn yr ardd, neu yng ngharafan y teulu yn Sir Benfro yr oedd Manon.
Mae'r garafan yn lle da i iddi hi a'i gwr Jim Parc Nest fynd i weithio ac ymlacio wrth gerdded llwybr yr arfordir.
Yn gyn athrawes, ond fel mae'n cyfadde, nid yr orau erioed, rhoddodd y gorau i ddysgu yn yr 80au er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu'n llawn amser.
Ar hyn o bryd mae'n ceisio cwblhau dilyniant i'w nofel Rara Avis a gyrhaeddodd restr fer llyfr y flwyddyn.
Yn ferch i'r llenor a'r gwleidydd Kitchener Davies a fu farw pan oedd Manon yn 4 oed, mae'n sicr iddo fod yn ddylanwad mawr arni gan ei bod hithau wedi dewis llenydda.
Mae wrth ei bodd fel mamgu ac yn honni bod treulio amser gyda phlant dan 6 oed 'yn ehangu eich gorwelion yn aruthrol' wrth iddi glywed am Dr Who ac 'aliens' ymhlith pethau eraill!
Ei hanrheg penblwydd delfrydol fyddai planhigyn neu ddau ar gyfer gardd y ty newydd.
Cwestiwn cyntaf Dewi oedd - sut fyddwch chi'n dathlu'r penblwydd?