Hawl i Holi: Nottingham
Mae'r rhaglen ar daith unwaith eto yn ymweld â gwahanol ardaloedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Dewi Llwyd sy'n teithio i Nottingham i ganfod barn y bobl am bynciau llosg a hynny yng nghwmni panel o bedwar.
Ar y panel yr wythnos hon fydd Gareth Davies cyn gapten rygbi Cymru ac un o bennaethiaid Prifysgol Leeds Metropolitain, y canwr a'r gwleidydd Dafydd Iwan, un o Gymry amlwg canolbarth Lloegr Jonathan Simcock sy'n gweithio fel Swyddog Datblygu gyda gwasanaeth gwirfoddol Derbyshire Dales, a Sian Foster, fu ar un adeg yn un o uwch reolwyr gyda rhai o gwmniau mwya' Prydain sydd bellach wedi ail hyfforddi fel athrawes.
Hawl i Holi, nos Fawrth, 6.03pm, Radio Cymru.