Ymchwiliad arbennig
Ymchwiliad arbennig i honiadau bod cyngor Sir Conwy yn erlyn gormod o ffermwyr heb fod wir angen gwneud hynny.
Dros yr wythnosau diwetha mae nifer o achosion llys yn erbyn ffermwyr yn y gogledd wedi chwalu, gan achosi straen di-angen i amaethwyr ac gost enfawr i'r trethdalwr.
Bydd Manylu heno yn clywed gan ffermwyr sydd wedi bod yn y doc ac wedi ennill eu hachos. Dywed un amaethwr ei fod o wedi rhoi'r gorau i ffermio oherwydd y trafferthion.
A bydd Manylu hefyd yn datgelu sawl gwaith mae Cyngor Sir Conwy wedi erlyn ffermwyr - a'i gymharu a ffigurau cynghorau eraill yng Nghymru i weld os oes sail i gwynion y ffermwyr.Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Guto Bebb bod na le I bryderu am y defnydd o arian cyhoeddus a bod angen i`r cyngor fod yn fwy agored am y pres mae nhw wedi gwario.
Bydd Manylu hefyd yn clywed barn arbenigwr sy o`r farn na ddylid fod wedi bwrw mlaen a un o`r achosion o gwbwl.