Tudur yn Wa Bala
Wel helo, fe gawsom ni yn WA Bala dydd Sadwrn dwytha…. Cyrraedd Bala tua 11 'ma, ac fe gafodd Tudur 'chydig o "strop" gyda Gareth y cynhyrchydd, ar ol meddwl ein bod ni am fod yn darlledu o stryd gefn, ond mewn gwirionedd 'roedda' ni'n darlledu o Gaffi Cyfnod, a chael croeso mawr gan y criw oedd yn gweithio yno. Fe gafodd y tri ohonan ni lond bol o fwyd, ond toes na ddim digon o fwyd wedi ei greu i Gareth a Tudur ar adegau, felly nathon nhw ddechrau pigo fy mwyd i!
Ìý
Ìý
Fe wnath Tudur osod her i ni beidio defnyddio y gair 'Wa' yn ystod y rhaglen - dipyn o job gan fod y rhaglen yn darlledu o Bala! Fe gawsom ni gwmni trefnwyr yr wyl sef Ger Bach, Dei John, ac Al Ty Coch - gawn ni ddiolch i Al Ty coch am ddarllen y digwyddiadur wythnos yma, joban dda iawn!
Chwarae teg i Tudur - mae o'n gallu bod yn neis weithiau, ac fe wnaeth o drefnu sypreis i mi … fe drefnodd fod yr hyfryd Rhys Meirion yn pigo draw, ac fe ges i fynd am dro mewn "Twc Twc", oedd yn brofiad gwbwl newydd i mi. Fe nes i wir fwynhau y profiad, a gobeithio gai fynd eto.
Fe fydd Rhaglen Tudur 'nol yn stwidio dydd Sadwrn, a gobeithio y cawn ni eich cwmni
Hwyl
Manon
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý