主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Chwilio am fwy o ddoniau perfformio ymysg y Cymry

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Newyddion Newyddion | 16:09, Dydd Llun, 19 Medi 2011

Bydd 主播大秀 Radio Cymru yn crwydro Cymru unwaith eto dros yr wythnosau nesaf i ddarganfod doniau perfformio newydd yng nghwmni Sh芒n Cothi, yn barod at gyfres arall o Cyfle Cothi fydd yn cael ei recordio ym mis Hydref a Tachwedd 2011.

Bwriad y gyfres hon, fel yr un o鈥檌 blaen yw rhoi cyfle i chwe pherfformiwr o feysydd amrywiol i ennill profiad, derbyn hyfforddiant arbenigol a wynebau heriau perfformio yng nghwmni rhai o enwau mwyaf y byd perfformio yng Nghymru.

Ond mae amser yn brin gan bod y dyddiad cau i ymgeiswyr ar ddydd Gwener, Medi 23 am 12pm.

Bydd Sh芒n Cothi yn cyflwyno鈥檙 rhaglen gyda chefnogaeth t卯m o arbenigwyr o feysydd perfformio gwahanol. Mae鈥檔 gyfle unigryw i berfformwyr sy鈥檔 dechrau ar yrfa i gael cymorth arbenigwyr yn eu meysydd, pobol fel y pianydd Iwan Llywelyn Jones, y canwr o鈥檙 West End Mark Evans, Meilir Gwynedd o fand y Sibrydion, y tenor Aled Hall, y soprano Leah Marian Jones a Jeremy Turner o gwmni Arad Goch.

Margaret Williams

Margaret Williams

Cadeirydd y panel dewis yw Margaret Williams,听 聽聽聽

鈥淒aeth y syniad o greu rhaglen dalent wrth weld offerynwyr yn cystadlu mewn Eisteddfod Genedlaethol,鈥 meddai. 鈥淢ae'r dalent offerynnol sydd gyda ni yng Nghymru o safon arbennig o uchel,听 heb s么n am yr actorion a pherfformwyr lleisiol.

鈥淩ydyn ni'n chwilio am unigolion sydd yn driw i'w crefft ag sydd yn ysu i ddatblygu fel perfformwyr y dyfodol. Mae cymaint o unigolion talentog o amgylch Cymru a phwrpas y rhaglen yw rhoi llwyfan iddynt a chodi eu proffil.鈥

Mae gofyn i ymgeiswyr fod yn 16 mlwydd oed neu鈥檔 h欧n ar ddydd Iau, Medi 1 2011. Bydd gofyn i bob ymgeisydd baratoi enghraifft 5 munud o hyd o'u gwaith un ai ar CD (3 chopi) neu ar mp3.

Bydd hefyd gofyn i鈥檙 ymgeiswyr fynychu cyfweliad gyda鈥檙 panel dewis er mwyn cymryd rhan yn y gyfres Cyfle Cothi. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 03703 500 600 neu ewch i bbc.co.uk/radiocymru a chliciwch ar Cyfle Cothi.

Gwefan Cyfle Cothi

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.