Manylu
Y tor calon o gael eu twyllo gan adeiladwyr anghyfreithlon - dyna fydd pwnc Manylu heno wrth i nifer o unigolion rannu eu profiadau. Bydd un gŵr oedrannus yn disgrifio sut y cafodd ei orfodi i fynd i'r banc er mwyn talu arian parod i un adeiladwr. Mae'r rhaglen hefyd yn edrych ar gynllun arloesol ym Môn sy'n ceisio sicrhau nad oes unrhyw fasnachwyr yn manteisio ar y trigolion yno.
Ìý
Mae adroddiad gan y swyddfa archwilio cenedlaethol yn amcangyfrif fod perchnogion tai yng Nghymru yn colli £330 miliwn y flwyddyn wrth gael eu camarwain gan fasnachwyr sy'n galw o ddrws i ddrws - ffigwr sy'n profi fod y broblem yn un rhy gyffredin o lawer.
Ìý
MANYLU gyda Nia Thomas am 1800 heno.ÌýÌý
Ìý
Ìý