Manylu: Ardaloedd menter newydd
Mae ardaloedd menter newydd wedi eu creu ar gyfer Cymru ond a fydda nhw'n helpu i leihau diweithdra neu a fydd nhw'n denu gweithwyr o un rhan o Gymru i'r llall?Ìý
Bydd rhifyn yr wythnos hon o Manylu yn edrych ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i greu pum Ardal Fenter ar hyd a lled y wlad er mwyn rhoi hwb i'r economi. Roedd Ardaloedd Menter yn un o bolisiau llywodraeth Margaret Thatcher yn yr wythdegau. Ond llwyddiant cymysg gawson nhw bryd hynny. Mae rhai adroddiadau'n honni mai symud swyddi o un ardal i'r llall wnaethon nhw yn bennaf, yn hytrach na chreu swyddi newydd - ac mae rhai economegwyr yn amau gwerth sefydlu rhai newydd yn yr unfed ganrif ar hugain.
Ìý
Roedd sefydlu ardaloedd menter yn Lloegr eisoes yn un o bolisiau llywodraeth San Steffan cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddent hwythau'n sefydlu rhai yr ochor yma i Glawdd Offa. Mae rhai yn credu mai'r siom o glywed mai yn Wolverhampton - oedd eisoes yn ardal fenter - ac nid ym Mhen-y-Bont ar Ogwr y byddai Jaguar Land Rover yn agor eu ffatri newydd sbardunodd wleidyddion ym Mae Caerdydd i weithredu.
Ìý
Yn sicr, meddai David Jones, pennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy - sy'n gweithio'n agos gyda nifer o'r cwmniau technolegol mawr yn yr ardal - fe fydd y buddsoddiad yn helpu'r gogledd-ddwyrain i barhau yn gystadleuol. Fe fydd yr Ardal Fenter sydd i'w sefydlu yno yn canolbwyntio ar gynhyrchu nwyddau, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd y pwyslais ar ddiwydiannau gwahanol yn yr ardaloedd menter eraill.
Cynhyrchu ynni fydd y nod ar Ynys Môn. Canolfan ar gyfer gwasanaethau ariannol fydd Caerdydd, a bydd Glyn Ebwy a Sain Tathan yn canolbwyntio ar y diwydiant ceir ac awyrennau.
Ìý
Mae nifer tu allan i'r ardaloedd menter fodd bynnag yn dweud nad ydi hi'n deg bod y llywodraeth am greu manteision i fusnesau i ymsefydlu mewn rhai rhannau o Gymru - tra bod dim byd ar gael i'r rhai sydd eisoes yn ceisio cadw'u pen uwch ben y dwr mewn llefydd eraill. Ond, gyda Chymru'n wynebu toriadau mewn gwasanaethau, diweithdra cynnyddol, a gor-ddibyniaeth ar y sector gyhoeddus, mae nifer yn croesawu unrhyw gam allai helpu i osod seiliau ar gyfer economi mwy llewyrchus yn y dyfodol.
Ìý
Manylu, nos Lun 24 Hydref am 6.03pm
Ìý
Ìý