Manylu: Cynlluniau i ddatblygu pwll newydd gerllaw glofa'r Gleision
Ychydig wythnosau’n unig wedi trychineb y Gleision, pan laddwyd pedwar glowr yng Nghwm Tawe, bydd rhaglen faterion cyfoes Manylu ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn datgelu fod cynlluniau ar y gweill i ddatblygu pwll glo bach arall yn ymyl safle’r lofa.
Mae Manylu wedi darganfod fod cwmni Western Carbons, o Rydaman, wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Castell Nedd Port Talbot i ddatblygu pwll newydd ar safle pum erw ar Fynydd Alltygrug, ger Godre’r Graig - rhyw filltir o bwll y Gleision.
Cwmni sy’n cyflenwi glo ar gyfer y diwydiant ffiltro dŵr yw Western Carbons, ac yn ôl y pennaeth, Jeff McAvoy, y bwriad yw cloddio’r glo ar gyfer defnydd y cwmni, gan greu o leiaf deg o swyddi.
Ond wrth i’r ymchwiliad i ddamwain y Gleision barhau, a gyda glowr arall wedi ei ladd mewn damwain yn Kellingley yng ngogledd Lloegr yn ddiweddar, mae nifer yn cwestiynu pa mor ddiogel yw hi bellach i weithio yn y pyllau glo.
Heno bydd Manylu’n gofyn a yw’r risg werth y gost?
Manylu am 6 o’r gloch, nos Lun 10 Hydref, ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.