Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byw a brwydro MS

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Newyddion Newyddion | 15:48, Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2011

Gweithio i'r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon oedd Owain Pennar yn niwedd yr Wythdegau pan sylweddolodd bod rhywbeth o'i le. Doedd Owain ddim yn gallu gweld sgrîn y cyfrifiadur yn iawn. Fe gymerodd hi flynyddoedd i feddygon ac arbenigwyr ddarganfod fod ganddo Sglerosis Ymledol, MS.


Bydd rhaglen yr wythnos hon yng nghyfres ddogfen Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Straeon Bob Lliw yn dilyn hanes Owain, sy’n dad i ddau, gan ddarganfod sut beth ydi byw gyda'r cyflwr. Mae Owain yn gallu cerdded ychydig gyda dwy ffon ond mae'n treulio llawer o'i amser mewn gwahanol fathau o gadeiriau olwyn.Ìý Mae'n dal i weithio'n llawn amser fel swyddog y wasg ac yn defnyddio 'power chair' yn ei waith.

Mae gan Gwern, ei fab ieuengaf pedair oed, Down's Syndrome. Mae Gwern yn rhoi modd i fyw i'w dad.Ìý "Mae'n dda iawn da fi," meddai Owain, "mae'n addasu i fi - mae'n gwybod mod i'n ffaelu gwneud lot o bethau."

Yn ystod y rhaglen fe gawn ni gyfle i gyfarfod ag un o'r nyrsys MS - gwasanaeth sy'n bwysig iawn i Owain a phobol eraill sy'n byw gyda'r cyflwr.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Mi gawn ni hefyd gyfarfod â'i ffrind, Elis. Mae'n cofio un achlysur lle daeth y ddau i lawr yr allt serth o Gastell Dinefwr fel dwy gath i gythraul a gorfod taro i mewn i goeden er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd Owain yn mynd tîn dros ben yn ei gadair.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.



Straeon Bob Lliw: Stori Owain - Dydd Mercher, Tachwedd 2, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, 6pm

Ìý

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.