Manylu:
Diogelu Cyflogau yn costio 拢700,000 y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd 听
Mae鈥檙 gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gwario bron i dri chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn ar weinyddwyr y diddymwyd eu swyddi yn ystod ad-drefnu鈥檙 Gwasanaeth Iechyd yn 2009. Dyma fydd Manylu yn ei ddatgelu ar y rhaglen ddydd Llun 7fed o Dachwedd.听 Dyma鈥檙 tro cynta i鈥檙 ffigurau gael eu cyhoeddi, yn dilyn cais gan y rhaglen o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
听
Yn ystod ad-drefnu鈥檙 Gwasanaeth Iechyd yn 2009, unwyd saith Ymddiriedolaeth GIC a 22 bwrdd iechyd lleol i greu saith bwrdd iechyd wedi eu hintegreiddio, oedd yn cynnwys Cymru gyfan. Y bwriad oedd cwtogi ar fiwrocratiaeth yn y system. Ond, yn 么l gwybodaeth a听 gasglwyd gan Manylu, cafodd tua 120 o reolwyr a gollodd eu swyddi eu cadw mewn gwaith a diogelwyd eu cyflogau.
听
Mae ffigyrau gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn dangos bod cyflogau wedi eu diogelu gan 52 rheolwr ar gyflog uwch na 拢40,000, bod 40 yn ennill dros 拢50,000 a 24 dros 拢80,000.
听
Mae cyfanswm diogelu cyflogau yn costio tua tri chwarter miliwn o bunnoedd i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, swm sy鈥檔 annerbyniol yn 么l AC Plaid Cymru Ll欧r Huws Gruffydd. Meddai ar y rhaglen:
听
"Rwy wedi cael fy mrawychu o glywed y ffigyrau yma. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'r byrddau iechyd lleol yn wynebu toriadau ac mae'n rhaid i bob ceiniog o'r arian weithio. Mae'r ffaith bod dros hanner miliwn o bunnau yn cael ei wario ar bobl sydd ddim mewn swyddi ystyrlon yn codi gwallt fy mhen.鈥
听
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru roedd diogelu cyflog yn un o鈥檙 pynciau a gytunwyd rhwng y gwasanaeth iechyd a鈥檙 undebau cyn ad-drefnu鈥檙 gwasanaeth iechyd yn 2009.听 Yn 么l eu datganiad mae鈥檙 polisi yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan fforwm sy鈥檔 cynnwys cynrychiolaeth o鈥檙 Llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd a鈥檙 Undebau. Ond mae gweithwyr meddygol sy鈥檔 dweud eu bod yn gweithio o dan bwysau cynyddol yn galw am i鈥檙 Gweinidog Iechyd adolygu鈥檙 polisi o ddiogelu cyflogau yn wyneb y toriadau i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.听
听
Manylu heno (nos Lun 7fed o Dachwedd) am 1803.