Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru
... gyda'r arwerthwrÌý Stifyn Parri! yn dechrau ar raglen Dafydd a Caryl ac yn parhau hyd at raglen Geraint Lloyd yn y prynhawn.
Ìý
- Sgidiau pêl-droed wedi eu llofnodi gan Aaron Ramsey
- Pêl, poster a rhaglen swyddogol Cwpan Rygbi'r Byd wedi ei llofnodi gan sgwad Cymru
- Crys wedi ei lofnodi gan dîm pêl-droed Abertawe
- Pecyn rygbi - rhaglen wreiddiol o gêm Llanelli v Crysau Duon 1972 lle curodd Llanelli, rhaglen arall wedi ei llofnodi gan y tîm buddugol hwnnw, dwy set o docynnau teulu y Scarlets
- Arwydd Cwmderi wedi ei lofnodi gan gast y gyfres ddrama
- Cân wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Caryl Parry Jones
- Gwely a brecwast am ddwy noson i ddau yn y King's Head yn Llanymddyfri
- Diwrnod yn RAF Fali
- Englyn wedi ei sgrifennu yn arbennig i'r derbyniwr gan Rhys Iorwerth
- Diwrnod yn pysgota gyda Julian Lewis Jones
- Safle carafán efo trydan ym maes carafannau Eisteddfod Genedlaethol 2012 - gwerth £250.
- Poster o'r reslwr Mason Ryan.
Y rhif i wneud cynnig ar y dydd yw 03703 500 500*.
Gwefan Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru
*Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddiant.
Ìý
Ìý