Dewi Llwyd yn holi Eleri Sion
Y gyflwynwraig afiaethus, Eleri Sion oedd gwestai arbennig Dewi heddiw cyn dathlu ei phenblwydd yr wythnos hon. Rhwng cyflwyno chwe diwrnod yr wythnos ar Radio Cymru, gwneud prosiectiau teledu amrywiol a bod yn fam i Alfie sy'n 19 mis mae Eleri yn brysur iawn. Bydd y misoedd nesaf yn brysurach nag erioed gan fod Eleri yn priodi ym mis Mehefin, ond yn dilyn ymgais ei dyweddi Dave i drefnu ei pharti penblwydd yn 40 oed llynedd nid y fo fydd yn gyfrifol am drefnu eu priodas eleni!
Darlledwyd 15.01.12
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.