Manylu: Llygredd Llyn Padarn
Gallai un o bysgod prina Cymru ddiflannu o un o'i ychydig gynefinoedd naturiol oherwydd llygredd ymhen pum mlynedd. Dyna farn yr awdurdodau sy'n gyfrifol am warchod y torgoch.
Ond yn rhaglen Manylu heno ar Radio Cymru, bydd yr asiantaethau hynny sydd a dyletswydd dros ddiogelu'r pysgodyn yn cael eu cyhuddo o laesu dwylo - sydd wedi arwain at ddifa'r union hyn mae nhw fod i'w warchod.
Ers dau ddegawd mae Cymdeithas Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni wedi bod yn pryderu bod gwaith carthffosiaeth Dŵr Cymru yn llygru Llyn Padarn, Llanberis, a bod hynny'n difa stoc y torgoch. Mae nhw hefyd wedi dweud mai carthffosiaeth oedd y bai am yr algae gwenwynig fu ar wyneb y llyn yn haf 2009, wnaeth effeithio busnesau twrisiaeth yn y pentref. Doedd dim prawf o hyn yn ôl Dŵr Cymru a'r awdurdodau.
Ond mae'r pysgotwyr yn dweud nad oes neb wedi cymryd eu pryderon o ddifri nac wedi dod i wraidd y broblem ddigon cynnar - a bod amser nawr yn rhedeg allan.
Manylu, nos Lun, Chwefror 20, 2012.