Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru a Ö÷²¥´óÐã Radio Wales i ddarlledu'n ddigidol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Mae Ö÷²¥´óÐã Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd amlblethiad newydd radio digidol yn cael ei lansio ym mis Tachwedd, fydd yn galluogi dwy orsaf radio genedlaethol Ö÷²¥´óÐã Cymru i ddarlledu'n ddigidol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru .
Bydd MuxCo yn lansio amlblethiad radio digidol yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn Lerpwl, Sir Gaer a Gogledd Ddwyrain Cymru ac, yn amodol ar y cytundeb, bydd yn hwb pellach i ddarlledu digidol y ddwy orsaf yng Nghymru.
"Mae hyn yn newyddion da i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Ö÷²¥´óÐã Radio Wales a chynulleidfaoedd yn y Gogledd Ddwyrain," meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr Ö÷²¥´óÐã Cymru, "gan y bydd y gwrandawyr yn gallu gwrando ar y ddwy orsaf gyda'r safon gorau posib o sain, yn ddigidol."
"Mae hyn yn newyddion gwych i Ö÷²¥´óÐã Radio Wales," meddai Steve Austins, Golygydd Ö÷²¥´óÐã Radio Wales. "Mae gennym dîm wedi ei leoli yn Wrecsam, sy'n sicrhau bod lleisiau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu clywed ar draws ein rhaglenni. Rydym wrth ein boddau y bydd pobol nawr yn gallu gwrando yn ddigidol."
Meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg Ö÷²¥´óÐã Cymru: "Mae Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn ymfalchïo ein bod yn adlewyrchu Cymru gyfan ac mae'r datblygiad yma yn golygu bod yr orsaf yn gallu cynnig ei hystod ddifyr a pherthnasol o raglenni i'w chynulleidfa yn y Gogledd Ddwyrain trwy DAB."