Manylu - Athrawon a'i disgyblion treisgar
O fewn y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o blant sy'n ymddwyn yn dreisgar tuag at athrawon yn y dosbarth. Yn ôl un undeb, mae traean o athrawon wedi dioddef ymosodiadau.
Ysgolion cynradd sydd wedi gweld y newid mwyaf, gyda gwaharddiadau yno wedi dyblu rhwng dwy fil a naw a dwy fil a deg, am y tro cyntaf mewn deng mlynedd.
Mae nifer o ffactorau i'w ystyried wrth ystyried pam fod plant yn ymddwyn yn fwy bygythiol; ai newidiadau cymdeithasol fu'n gyfrifol? A yw rhieni yn gwneud digon i ddysgu'i plant sut i ymddwyn yn briodol?
A beth am ymateb yr awdurdoau i'r ymddygiad drwg? Ydi gwaharddiadau'n effeithiol? A'i dyma'r unig opsiwn sydd i ysgolion pan mae plentyn yn mynd rhy bell? Yn ôl rhai sydd 'di siarad â Manylu, mae mwy a mwy o athrawon yn newid ysgol, neu yn gadael y proffesiwn yn gynnar oherwydd ymddygiad unigolion yn y dosbarth.
Does dim digon medden nhw'n cael ei wneud i ddelio â sefyllfa sy'n gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn.
Manylu, gyda Tomos Morgan, nos Lun 18fed o Fehefin am 6.03pm ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.