主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 20 Awst 2012

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Pigion Pigion | 11:29, Dydd Mawrth, 21 Awst 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Pop mewn print - cylchgronau

cylchgronnau - magazines
chwa o awyr iach - a breath of fresh air
diwallu gofynion - to fulfil the needs
tafodiaeth - dialect/informal language
pigog - hard hitting/edgy
chwistrellu鈥gni - injection..of energy
heriol a beirniadol - challenging and critical
adlewyrchu - to reflect
gwrthryfelu yn erbyn y sefydliad - rebelling aginst the establishment
cyngor cyfreithiol - legal advice

"... efo rhaglen newydd sbon sydd i'w chlywed bob nos Fercher - Pop Mewn Print. Rhaglen ydy hon sy'n edrych ar hanes cylchgronau pop Cymraeg efo Ian Gill yn cyflwyno. Yn y clip yma, mae鈥檔 sgwrsio am y cylchgrawn 鈥淪诺n鈥 efo Craig Owen Jones sydd yn guradur yn Archif Bop Prifysgol Bangor, ac hefyd efo Hefin Wyn sydd wedi sgwennu llyfr am hanes pop Cymraeg. Yn y clip yn ogystal mae Ian yn holi Alun 鈥淪bardun鈥 Huws, un o'r rhai ddechreuodd y cylchgrawn. Mi roedd yna gylchrawn pop Cymraeg yn bod yn barod -Asbri - oedd yn cael ei gyhoeddi gan yr Urdd. Pam felly bod Alun 'Sbardun' yn disgrifio 'S诺n' fel '...chwa o awyr iach'? "

Daf a Caryl - Alex Jones

gollwng - to drop
credu taw - meddwl mai
cyngerdd - concert
cyfweliad - interview
s锚r - stars

Bechod na 'sen nhw 'di cael galw'r cylchgrawn yn Rasbri ynde? Enw gwych!!! I aros efo'r byd pop mi gaethon nhi sgwrs ar Daf a Caryl ddydd Iau efo rhywun oedd wedi canu efo Stevie Wonder ac wedi cael cwtsh gan Paul McCartney. Pwy oedd hon tybed? Diva o'r byd pop, neu rhyw fodel ella? Naci wir, neb llai nac Alex Jones o'r One Show, sydd yn dod am sgwrs efo ni ar y rhaglen o dro i dro.

Dewi Llwyd - Fflur Wyn

cantorion - singers
crynu fel deilen - shaking like a leaf
cynulleidfa - audience
yn gyhoeddus - in public
beirniad - adjudicator
gwrandawiad - audition
atgoffa'ch hun - to remind oneself
cystadleuol - competitive

"Dylech chi fod wedi gweld wyneb Caryl pan glywodd bod Alex wedi canu efo Stevie Wonder. Sioc ta be? Ella bod y gantores Fflur Wyn heb ganu efo Stevie ond mae hi'n gantores broffesiynol - canu clasurol, hynny yw, nid cantu pop! Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore Sul. Dyma hi'n dweud wrth Dewi sut roedd cystadlu yn yr Eisteddfod wedi bod yn help mawr iddi wrth ddechrau ei gyrfa ganu. "

Taro'r Post - Olympics ta'r Steddfod?

sylwadau - comments
Prydeiniwr - British
gorfodi - forced
lol eithafol - extreme nonsense
prawf - evidence
chydig iawn - very few
Dewch o 'na - come off it
mwynhau yn ddychrynllyd - enjoy terribly

"Dw i'n siwr basai gan Fflur rhywbeth i'w ddweud am sylwadau Maldwyn Jones o'r Felinheli ar Taro'r Post ddydd Llun. Dydy o ddim yn hoff iawn o'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn amlwg yn poeni am rai o'r plant sydd yn mynd yna efo'u rhieni... "

Y Talwrn - y Ffeinal

Araith y Llywydd - President's Speech
hoelio - to nail
perfedd - gut
bodio - to hitchhike( to thumb)
dagrau - tears
saer...rhydd - freemason
ehedydd - skylark
yn gelfydd - skillfully
aflonydd - fidgety
yn gegrwth - openmouthed

...Maldwyn Jones yn fan'na yn dweud ei ddweud wrth Dylan Jones. Ond be sy o'i le efo plant yn cael mwynhau'r ddau beth, y Steddfod a'r Olympics? Dim ond gofyn! Mae gen i deimlad na fasa' Maldwyn Jones yn mwynhau rhyw lawer ar yr eitem nesa 'ma - rownd derfynol, neu ffeinal, Talwrn y Beirdd -gaeth ei gynnal ar faes yr Eisteddfod. Dau d卯m oedd yn y ffeinal 'Y Gl锚r' a'r 'Tir mawr'. Dyma i chi Gaeth Jones, neu J么s, o dim y Tir Mawr efo'i g芒n ugain llinell ar 鈥楢raith y Llywydd鈥.

"Dei Tomos Dydd Sul Aneirin Karadog " - Aneirin Karadog

ailganfod fy hunaniaeth - rediscover my identity
Llydaw - Brittany
clytwaith gorgymleth - overcomplicated patchwork
ymsefydlu - to establish oneself
adlewyrchu - to reflect
dianc - to escape
esgeluso - to neglect
Annwn - underworld (mythological)
cyd-destyn - context
cau pen y mwdwl(idiom) - to bring something to a head

"Da de, er roedd hi'n swnio'n fwy nag ugain llinell i mi rywsut. A fasai hynny ddim yn syndod rywsut gan nad ydy J么s wedi llwyddo i gadw ei g芒n o fewn ugain llinell un waith yn ystod y gystadleuaeth! Mae Aneirin Karadog yn fardd sydd i'w glywed yn aml ar y Talwrn. Mae o hefyd yn rapiwr, mewn Llydaweg yn ogystal ac yn Gymraeg. Dyma fo'n siarad efo Dei Tomos am ei gyfrol newydd o gerddi 鈥極 Annwn i Geltia鈥 . "

Rhiniog - Mer锚d

o safbwynt y diwylliant - from the culture point of view
gwerthfawrogi - to appreciate
digonnedd - more than enough
annog - to encourage
swil - shy
diddanu - to entertain
gwobr - prize
torri calon - to lose heart

"Mi ddechreuon ni'r podlediad yma efo cyfres newydd, ac mi gawn ni glip o gyfres newydd arall i orffen. Rhiniog ydy enw'r gyfres ac ynddi mi fydd y DJ Huw Stephens yn sgwrsio efo cerddorion hen ac ifanc. Yn y rhaglen gynta mi aeth Huw i weld y canwr gwerin arbennig iawn, y Dr Meredydd Evans yn ei gartref yng Nghwmystwyth... "

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.