主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y Pla Newydd, gan Beti George

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Newyddion Newyddion | 12:26, Dydd Gwener, 21 Medi 2012

Wedi'r ymateb anhygoel a gafodd y rhaglen deledu 鈥淯n o Bob Tri鈥 ar S4C roeddwn yn falch o gael y cyfle i ddilyn y pynciau a godwyd mewn cyfres i Radio Cymru. Enwais y gyfres yn Y Pla Newydd, waeth dyna beth yw Dementia, y gair ymbar茅l sy'n cynnwys Alzheimer's a dementia fasgwlar a dwsinau o fathau eraill.听 Mae'r ystadegau yn gyfarwydd erbyn hyn os bosib - gall daro pobl ifainc yn eu pedwar degau a chynt; un o bob tri o rai dros eu 65; hanner rheiny sy'n cyrraedd 85; y wladwriaeth yn arbed 6 biliwn o bunnau am fod y teulu yn gofalu 鈥︹. Ydi mae'n ddigon i godi braw ar y sinig mwya' ohonom.

Mae gwneud y gyfres Y Pla Newydd wedi cryfhau fy nyhead i weld newid yn y ffordd y mae pobl 芒 dementia yn cael eu trin. Roedd yr Athro Stephen Hawking yn s么n am un canlyniad positif y gemau paralympaidd - bod听 unigolyn ag anabledd yn cael ei weld fel person normal gyda rhai anawsterau arbennig.听 Wel, dyna'n union sut y dylid gweld unigolyn ag Alzheimer's neu ddementia. Mae Llywodraeth Cymru yn gneud cam 芒 phobl sy' 芒'r clefyd trwy ddiffinio'r salwch yn 鈥済lefyd meddwl鈥. Nid dyna yw e. Mae'r seicolegydd Dr Becci Dow, sy'n gweithio gyda phobl 芒 dementia i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, yn mynnu dweud wrth y sawl sy' wedi cael y diagnosis, mai niwed ar yr ymennydd sy'n achosi'r colli cof. Mae'n lleihau'r stigma meddai. Mae canser ar yr ymennydd yn gallu arwain at yr un symptomau. Ond fuse neb yn dweud wrth rywun sy'n diodde' o ganser yr ymennydd ei fod wedi 鈥渃olli ei marbles鈥.

Canolbwyntio ar ofal wnaeth y rhaglen gynta' yn y gyfres - gofal gan deulu a gofal gan ofalwyr proffesiynol. Diffyg cefnogaeth oedd yn codi ei ben dro ar 么l tro. Er enghraifft - Si芒n Roderick, mam i dri o blant, ac sy'n gofalu ar 么l Dilys ei mam sy' ag Alzheimer's yn dweud, er iddi ofyn am help gan y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd, doedd dim gobaith, am iddyn nhw ddweud wrthi fod llawer iawn a mwy o angen help na hi.

Mae 'na enghreifftiau lawer o ofal da听 - ond yn gyffredinol y teimlad yw nad yw'r gofalwyr proffesiynol wedi cael digon o hyfforddiant i ofalu ar 么l pobl 芒 dementia, sy' ag anghenion arbennig iawn.

Fe glywsom ni gan Emma bod pobl ifainc yn cael eu lluchio i mewn i'r swydd heb ystyried a ydyn nhw'n gymwys neu beidio. Tair ar hugain oed yw hi ac roedd hi wrth ei bodd yn gofalu am bobl 芒 dementia ond bu'n rhaid iddi roi'r gore i'r swydd am iddi gael gwybod ei bod yn diodde' rheumatoid arthritis.

Roedd hi'n 鈥渃orddi tu fewn鈥 meddai, yn credu nad oedd digon yn cael ei 鈥榥eud o safbwynt y llywodraeth i edrych o ddifri ar dementia - y gofal a'r ymchwil i ddod o hyd i ateb.

Yr hyn sy'n eironig yw'r ffaith bod gyda ni yng Nghymru arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw sy'n cael eu cydnabod yn fyd-eang . Eto, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn buddsoddi fel y dylen nhw yn yr ymchwil pwysig sy'n cael ei wneud yma? Yn y pen draw fe fydden nhw'n arbed arian.

Yn yr ail raglen, rhai sy'n byw gyda'r clefyd gafodd y sylw. Edmund yn Llandegfan, Sir F么n er enghraifft a'i wraig Sylvia yn gneud yn siwr bod bywyd yn mynd yn ei flaen gore gallen nhw. Gan fod Edmund yn dwli ar ganu, mae'r ddau yn mynd bob pythefnos i gael hwyl gyda'r grwp canu ym Mangor sy' wedi ei sefydlu gan y Gymdeithas Alzheimer's ac Ysgol Gerdd William Mathias ar y cyd. Ond i gael mynd i ganolfan ddydd rhywle yn Sir F么n, er gwaetha taflenni a gafodd Sylvia yn ei chyfeirio at wahanol gyrff, ofer oedd pob ymgais ar ei rhan i ddod o hyd i le felly.

At bwy i droi am help a chyngor oedd y cwestiwn a godai ei ben yn gyson yn y rhaglen hon.

Y groesffordd yw pwnc y drydedd raglen - pan fo edrych ar 么l anwylyd wedi mynd yn drech na'r gofalwr gartre sy' wedyn yn gorfod wynebu'r ystyriaeth boenus o ofal mewn cartre' preswyl. Os nad yw'r gwrand盲wr yn cael ei gyffwrdd 芒鈥榬 hyn sy'n cael ei ddweud yn y rhaglen hon, dyn a wyr ar ba blaned mae'n byw! Y gwir amdani yw y bydd cyfran helaeth ohonom yn gorfod wynebu hyn rywbryd. Ac os nad oes 'na chwyldro yn mynd i ddigwydd ym maes cartrefi preswyl, dwy i'n bersonol yn sicr ddim yn edrych 'mlaen at y profiad!听听

Dywed Hywel Jones, oedd yn chwilio am gartre parhaol i'w wraig Si芒n yn y rhaglen Un o Bob Tri, mai 鈥渂lin fu'r daith a hir dros anghynefin ffyrdd鈥 oedd y disgrifiad gore o'r profiad gafodd e. Ac fe welodd e rai cartrefi na fydde fe wedi rhoi Si芒n ynddyn nhw 鈥渁r ei grogi鈥. Doedd na ddim lle addas i Si芒n yng Ngheredigion o gwbl听 fyddai'n agos at eu cartre' yn Aberystwyth. Yn y diwedd, fe gafodd Si芒n, sy' ag anghenion dwys, le mewn cartre' addas yn yr Alltwen ger Pontardawe, sy'n gyfleus i'w dwy chwaer sy'n byw yn yr ardal. Cartre' sy'n costi 拢2000 yr wythnos. Ond oherwydd ei hanghenion gofal, cyrff statudol sy'n talu. Dywed Hywel na fuse fe byth yn gallu fforddio, ac mae'n ymwybodol iawn o'r dilemma y mae teuluoedd eraill yn gorfod ei wynebu. Talu miloedd o bunnau am y gofal addas a dyledus, neu wario llai a rhoi anwylyd mewn cartre' anaddas a llai safonol.

Mae'r Dr Betsan Rosser yn ymgynghorydd seiciatrig ac yn bennaeth ar yr uned dementia yn Ysbyty Tonna ger Castell-nedd. Roedden nhw ar fin colli ugain o welyau - ac mae'n rhaid symud y bobl i gartrefi preifat. Roedd hithau'n s么n am y gost o roi pobl mewn cartrefi, a'r amryfusedd difrifol sy' 鈥榥a wrth ystyried a ydi rhywun yn ddigon s芒l i gael gofal am ddim - y gofal iechyd parhaol (continuing health care). Mae'r gofynion yn uwch nag yn Lloegr, ac mae'n amrywio o fwrdd i fwrdd. Roedd Dr Betsan yn dweud bod y sawl sy'n dlawd ddim yn gorfod talu. Roedd y cyfoethog iawn yn gallu fforddio 拢2000 yr wythnos听 -听 ond y twr sy' yn y canol sy'n ei chael hi'n anodd ac amhosib meddai, ac roedd hi'n cytuno bod angen strategaeth bendant a chenedlaethol i fynd i'r afael 芒'r broblem enfawr.

Ond dyw'r darlun ddim yn ddu i gyd. Ar gyfer y rhaglen deledu Un o Bob Tri, roedden ni wedi ffilmio uned听 dementia bychan sydd ynghlwm wrth gartre preswyl Bryn Blodau yn Llan Ffestiniog. Yn Pla Newydd dwy i wedi gallu manylu'n fwy ar y math o ofal sydd i'w gael yno. Ann Lane oedd yn rhedeg y lle ar y pryd ac wyth o breswylwyr oedd yno - saith yn perthyn i'r rhyw deg! Roedd hi'n dweud am yr athroniaeth y tu 么l i'r gofal - bod dod i nabod cefndir pob un o'r preswylwyr yn hanfodol. Manylion dibwys ar yr olwg gyntaf meddai - er enghraifft a oes well ganddyn nhw goffi neu de. Beth oedd eu diddordebau nhw? Roedd un wedi bod yn magu ieir ar hyd ei bywyd. Fe brynwyd ieir iddi er mwyn iddi hi gael gofalu amdanyn nhw. Mae 'na ardd lle maen nhw'n tyfu llysiau o flodau. Maen nhw'n golchi'r llestri ac yn helpu i lanhau'r lle - fel tase nhw gartre meddai Ann.听 Ei dyhead hi yw gweld unedau bychain fel hyn ym mhob ardal yng Nghymru. Clywch, clywch meddwn innau, ac fe fuse Menna Davies o Landwrog ar ben ei digon petai 'na uned debyg yn ei hardal hi. Mae hi wedi gofalu am Ceredig, ei gwr, am ddeng mlynedd a mwy. Mae e wedi dirywio'n fawr erbyn hyn ac mae'n gorfod ystyried cartre' preswyl iddo. Ond hyd yn hyn meddai, er chwilio, dyw hi ddim wedi dod o hyd i un fyddai'n addas iddo - lle bach o saith neu wyth o breswylwyr fyddai'n gneud iddo deimlo ei fod 鈥済artre鈥.

Fel y dywed gwraig o'r gorllewin sy'n anfodlon tost 芒'r cartre y mae ei chwaer ynddo - 鈥 peidiwch 芒 chael fi'n rong - mae'r staff yn neis ond dwy i yn teimlo y dylen nhw gael eu dysgu'n well鈥︹ dwy'n teimlo'n flin am y bobl sy' mewn yna - achos erbyn yr oedran 鈥榥a, rych chi i fod cael gwell crac.鈥澨

Rown i'n arfer pasio'r llefydd yma heb feddwl ddwywaith amdanyn nhw - rown i'n selfish. Ond mae ei gweld hi听 yn un ohonyn nhw wedi agor fy llygaid, a dwy'n gobeithio bod rhywbeth yn dod o'r rhaglen yma fel bod pethau'n newid achos gwaeth mae pethe'n mynd a dweud y gwir wrthoch chi.鈥

Mae rhaglen olaf听gyfres Y Pla Newydd yn mynd allan ar ddydd Sul ac mae ar gael听ar wefan 主播大秀 Radio Cymru.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit 主播大秀 Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Beti George yn trafod gofalwyr dementia ar raglen Nia Roberts.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.