Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 02 Hydref 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 12:09, Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Blas- Bwyd ar Blat - Julian Lewis Jones

nain - mamgu
cogyddion - cooks
difetha - to spoil
trwchus - thick
tatws stwnsh a rwdan - mashed potatoes and swede
cynhesu - twymo
traddodiad - tradition
pobi - to bake
haenau - slices
taffi triog - treacle toffee

"...efo clip sy'n ddigon i godi hiraeth ar unrhywun - hiraeth am fwyd mam yn arbennig. Dyma'r actor Julian Lewis Jones a Heledd Cynwal yn cadw cwmni i Rhodri Ogwen Williams ar Blas – Bwyd ar Blat, ac yn siarad am fwydydd eu plentyndod. Julian byddwch chi ei glywed yn benna' yma, yn cofio bwyd roedd ei fam a’i nain yn wneud pan oedd o'n fachgen ifanc... "

Y Pla Newydd - Hywel a Siân

cartref preswyl - residential home
arweiniad - guidance
cronfa ddata - data base
addas ar ei chyfer hi - suitable for her
safon yn amrywio - standards vary
dros fy ngrogi (idiom) - over my dead body
drewdod - stink
persawrus - fragrant
anghenion dwys - special needs
ymdopi - to cope

"Dim byd i guro bwyd cartre, nacoes? Hiraeth o fath gwahanol iawn gawn ni yn y clip nesa. Hiraeth am gymar, neu bartner. Dyna mae llawer yn ei deimlo wrth i rywun agos ddechrau diodde o dementia. Mae Beti George wedi bod yn siarad efo nifer o bobol am eu profiadau nhw o'r cyflwr hwn, neu mewn gwirionedd eu profiad o ofalu am rywun oedd yn diodde, yn y gyfres 'Y Pla Newydd'. Yr wythnos diwetha mi glywon ni Hywel yn disgrifio'r broses emosiynol o geisio ffeindio cartref preswyl i'w wraig Siân. "

Stiwdio - cynffonau wyn

cynffonau ŵyn - lambs tails
cofiadwy - memorable
arddangosfa - exhibition
synnwyr o le - sense of place
cerfluniau - sculptures
persaerniaeth - architecture
tirlun - landscape
gofod - space
ystriaethau - considerations
tystysgrif - certificate

...ac yndoedd cariad Hywel am Siân yn dod drosodd yn glir iawn yn fan'na? Pob lwc i'r ddau ohonyn nhw. Awn ni i'r byd celf nesa ac at Kate Crockett yn 'Stiwdio'. Fuoch chi yn y 'Steddfod Genedlaethol eleni? Mae na lawer o sôn wedi bod am y LLe Celf yn y Steddfod ac mae dwy farn wahanol iawn i'w gilydd am y lle. Un o'r pethau mae pobl yn ei gofio am y Lle Celf ydy gwaith Carwyn Evans. Enillodd Carwyn y brif wobr gelf yn y Steddfod. Darn pren oedd y gwaith efo cynffonau ŵyn bach arno fo, ia dyna ddwedes i - cynffonau ŵyn bach...

Rhaglen Nia - Ffasiwn

rhestr - list
trwsiadus - well dressed
gweddill - the rest

"Awn ni yn ôl ychydig o flynyddoedd nesa, efo John Hardy yn cyflwyno rhaglen Nia yr wythnos diwetha. John sydd yn cyflwyno 'Cofio' ar foreau Sadwrn wrth gwrs, a chofio roedd o yn y rhaglen yma hefyd efo Arfon Haines Davies. Rwan mae'r rhan fwya o bobol yn cofio Arfon fel un oedd yn darllen newyddion ac yn cyflwyno rhaglenni Cymraeg a Saesneg. Faint tybed sy'n ei gofio fel eicon ffasiwn? Dyma John Hardy, Jenny Ogwen ac Arfon yn cofio digwyddiad yn Mil Naw Naw Saith... "

Daf a Caryl - Tom a Siân

cwrdd â - cyfarfod efo
cyfweld - to interview
profiad cynhyrchu - production experience
rhuthro - rushing
gobennydd - pillow

"Ia John, a do'n inna ddim ar y rhestr chwaith. Sgwn i pam? Un arall sy wedi bod yn cyflwyno newyddion yn Gymraeg ac yn Saesneg ydy Siân Lloyd. Hi oedd ein gwestai ar Daf a Caryl fore Mawrth. Mae hi'n dod yn wreiddiol o Wrecsam ond bydd Sian yn symud i weithio yn Llundain yr wythnos yma. Dros y blynyddoedd mae hi wedi cael cyfarfod efo llawer o bobol enwog. Dyma hi'n sôn am yr amser pan y buodd hi'n siarad efo Sir Tom Jones... "

Yma wyf Innau i Fod - Cwm Tawe

lleoli - located
bennu lan - to end up
caits - cage
pendroni - wondering
cysylltiadau - connections
tynfa - draw/attraction
hiraeth - nostalgia
peri - to cause
anarferol - unusual
y piod a'r brain - of the magpies and crows

"Gobeithio y gwelwn ni Sian yn ôl yng Ngymru cyn bo hir ynde? Mi symudodd y comedïwr Hywel James o Gymru i Lundain i chwilio am waith, ond mae o yn ôl rwan yn ei ardal enedigol sef Cwm Tawe. Mi gafodd Huw Chiswell a'r bardd Emyr Lewis sgwrs efo fo a llawer o drigolion eraill y Cwm, yn y rhaglen 'Yma Rwyf innau i Fod'. Bwriad Huw ac Emyr oedd sgwennu cân am yr ardal ac mi gawn ni gloi'r podlediad yr wythnos yma drwy wrando ar y gân hyfryd honno... "

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.