Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 10 Hydref 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 13:49, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Post Cyntaf - Nant Gwrtheyrn

ddeugain mlynedd yn ôl - 40 years ago
a'i ben iddo - going to rack and ruin
chwarel - quarry
gweledigaeth - vision
ymdrech - effort
cyntefig - primitive
Dirprwy Lywydd - Deputy Speaker
anawsterau - difficulties
hawl statudol - statutory right
adfer - to restore

"…drwy ddweud penblwydd hapus - ddim i berson ond i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn oedd yn cael ei phenblwydd yn drideg oed yr wythnos diwetha, ac mi roedd parti mawr yn y Nant i ddathlu. Ydach chi'n un o'r cannoedd o ddysgwyr sy wedi bod yn y Nant ar hyd y blynyddoedd? Dw i'n siwr bod llawer iawn wedi dod yn siaradwyr rhugl yna. Ond pwy gaeth y syniad am y Ganolfan yn y lle cynta? Un oedd wedi dysgu Cymraeg ei hun oedd y person hwnnw, sef y Dr Carl Clowes, ac mi ofynnodd Alun Rhys iddo fo sut gaeth o'r syniad? "

Iola Wyn - y wiwer goch

gwarchod - to protect
coedwigaeth - forestry
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt - Wildlife Trust
crwydro - to wander
ychydig gannoedd - a few hundred
ar gynnydd - on the increase
cyfreithlon - legal
gadael yn rhydd - to release
yn bla - a plague/infestation
y Canolbarth - mid Wales

"...a Margaret Eagleston yn fan'na'n enghraifft wych o'r miloedd o ddysgwyr sydd wrthi'n dysgu'r iaith. A dymuniadau gorau i'r Nant sydd nid yn unig 'Yma o hyd' ond yn mynd o nerth i nerth. Rhywbeth arall sy yma o hyd 'er gwaetha pawb a phopeth' ydy'r wiwer goch. Roedd rhai yn dweud basai'r wiwer goch yn diflannu o Gymru o achos y wiwer lwyd. Ond mewn ambell i le yn Nghymru mae hi'n dal ei thir, a'r nifer o wiwerod yn cynyddu. Dyma glywon ni ar raglen newydd sbon Iola Wyn, sydd i'w chlywed bob bore rhwng hanner awr wedi deg a hanner awr wedi deuddeg. Yn y clip mae Iola yn sgwrsio efo Huw Denman mewn coedwig ym Mrechfa, lle mae'n bosib gweld y wiwer goch. "

Geraint Lloyd - yr het

ar hyd a lled - the length and breadth
ambell i lun - one or two pictures
safle we - website
mo'yn - eisiau
y fenyw - y ddynes
pigyrnau - ankles
mor glou - mor gyflym
celwydd - lie

"Mae rhaglen newydd Iola yn un o'r newidiadau mawr diweddar sydd wedi bod i amserlen Radio Cymru. Mae rhaglen Geriant Lloyd wedi symud rwan i slot newydd rhwng 10 o'r gloch yr hwyr tan hanner nos. Ac yn ei raglen gynta yn y slot newydd nos Lun diwetha, mi gaeth o sgwrs efo Cefin Vaughan, postman oedd wedi derbyn rhywbeth rhyfedd iawn yn y post - top hat. Pam sgwn i?... "

Dan yr Wyneb - Non Evans

iselder - depression
rhoi'r gorau iddi - to give up
cydnabod - to acknowledge
canolbwyntio - to concentrate
llawdriniaeth - surgery
euog - guilty
diflannu - to disappear
gemau'r gymanwlad - Commonwealth games
becso - poeni
sylwebu - to commentate

"Pwy geith yr het nesa tybed? Bydd rhaid i chi wrando ar raglen Geraint i ffeindio allan! Mae gwrandawyr Radio Cymru yn gwybod bod Non Evans yn gwisgo sawl het. Mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn rygbi, judo, reslo ac wedi bod yn cyflwyno eitemau chwaraeon ar Radio Cymru. Ond does dim llawer iawn yn gwybod ei bod hi wedi dioddef o iselder ofnadwy yn ystod ei gyrfa, fel sawl un yn y byd chwaraeon. Hi oedd gwestai Dylan Iorwerth yn 'Dan yr Wyneb' yr wythnos diwetha, ac mi fuodd hi'n siarad yn onest iawn am gyfnod ofnadwy o anodd yn ei bywyd... "

Nia Roberts - Gerallt

cyfnod - period
sylwi - to notice
yn flêr - untidy
esbonio - to explain
arddegau - teenage years
dygymod - to cope
ddaru ni - wnaethon ni
tueddu i fod - tends to be
ynni - energy
plygu drosodd - to bend over

"Non yn fan'na wedi ymladd yn erbyn y cyflwr ac wedi dod drosto fo. Ymladd oedd hanes Morfudd Thomas hefyd fuodd yn sgwrsio efo Nia Roberts ddydd Mawrth. Ond ymladd oedd hi dros ei mab bach, Geraint sy’n dioddef o’r cyflwr genetig Frederich's Ataxia. Yn y clip mae’n sôn am yr adeg y sylweddolodd hi bod rhywbeth yn bod ar Geraint, pan oedd o'n dair oed, ac am y problemau roedd o'n ei wynebu yn yr ysgol... "

Daf a Caryl - Cân y Babis

hedodd - flew
stidodd - rained heavily
annwyl - cute
del - pretty
llawer difyrrach - far more interesting
fel y wawr - like the dawn
mochal dan gyseiliau - nestling in the bosom
yn glud - cosy
dan lwyn o eirin - under a plum tree

"Ddweda i un peth wrthoch, taswn i byth mewn trafferth mi faswn i eisiau (Daf:dwed 'isho') Morfydd ar fy ochr i! Wel mi roedd na sawl mam, tad, nain a thaid yn gwrando'n astud ar raglen Daf a Caryl ddydd Llun diwetha. Pam meddech chi? Achos ei bod hi'r adeg yna o'r mis eto - ia - adeg Cân y Babis'. Gwyneth Glyn oedd yn perfformio Cân Babis mis Medi ac nid 'It's raining Men' oedd hi'n ei ganu ond 'Mae'n bwrw babis'. Mwynhewch. "

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.