Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 07 Tachwedd 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 10:16, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Ifan Evans - Erin Richards

ffilm arswyd - horror movie
Calan Gaeaf - Halloween
stori wir - true story
hala llun - to send a picture
cyffrous - exciting
haeddu - to deserve
llwyddiant - success
diweddar - recent
cyfadde(f) - to admit
ymarfer - to practice

"...efo ffilm arswyd. Wel be arall wrth edrych yn ôl ar Galan Gaeaf ynde? Ffilm efo'r enw arswydus 'Open Grave' oedd yn cael sylw Ifan Evans nos Fawrth, a hynny gan fod un o'r actorion wedi dod mewn ato fo am sgwrs fach. Erin Richards ydy hi, ac efallai bydd rhai ohonoch chi'n ei chofio ar un o raglenni S4C - Mosgito. Mae hi wedi bod yn LA yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn actio mewn nifer o raglenni a ffilmiau newydd, gan gynnwys y gyfres Americanaidd ‘Breaking In’. Ond roedd gan Erin newyddion arbennig i'w rhannu efo Ifan... "

Dan yr Wyneb - Maethu

maethu - to foster
cymleth - complicated
enghreifftiau - examples
chwain - fleas
caniatâd - permission
yn ymwybodol - aware
sicrhau diogelwch - to ensure the safety
lles y plentyn - the welfare of the child
rheoliadau - regulations
cyfrifol - responsible

"Ia, dyna ni,'Lifestyle Lemonade' ydy enw'r ffilm. Cofiwch lle glywoch chi amdani hi gynta! Sgwrs am 'lifestyle' ychydig yn wahanol gafodd Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb yr wythnos diwetha. Mae na filoedd o bobol yn gwneud gwaith pwysig ac anodd iawn yn maethu plant bach. Un o'r rheini ydy Eleri Thomas sydd wedi maethu llawer iawn o blant dros y blynyddoedd, ond sydd am roi'r gorau iddi rwan. Mi gawn ni ei chlywed yn esbonio pam wrth Dylan, ac mi gawn ni glywed Dylan hefyd yn rhoi ei phwyntiau hi i Reolwr Tîm Maethu Plant yng Ngwynedd, Mari Thomas. "

Nia - Ffeiriau

pyllau glo - coal mines
merlod - ponies
cyd-daro - to clash
ysgwn i - I wonder
cyflogi - to employ
yn ei anterth - at its peak
gweision a morynion - servants and maids
ffrwyn - bridle
ffon bugail - shepherds staff
wal serth - steep wall

"Dylan Iorwerth yn fan'na yn mynd â ni dan wyneb byd maethu. Ac o ystyried yr holl straeon ofnadwy dan ni yn eu clywed y dyddiau hyn am gam-drin plant, mae gynnon ni le i fod yn ddiolchgar iawn i'r rhieni maeth yndoes? Mi gaethon ni ddarlun byw iawn o'r hen ddyddiau ar raglen Nia Roberts ddydd Iau. Nid mod i'n dweud bod y ddau oedd yn sgwrsio efo hi, Lyn Ebenezer a Charles Arch, yn hen chwaith cofiwch. Sôn oedden nhw am yr hen ffeiriau oedd yn cael eu cynnal yng Ngheredigion pan oedden nhw'n blant. Dyma Charles Arch i ddechrau... "

Geraint Lloyd - Fferm Ffactor

beirniad - adjudicator
cymeriadau - characters
cystadleuwyr - competitors
godro - to milk
mesur porfa - measuring psture
saethu - firing
pwysau - pressure
ymdopi - to cope
y wobr - the prize
llysgennad i'r diwydiant - ambassador for the industry

"Pwy fasai'n meddwl ynde bod y fath beth â ffair gyflogi i gael o fewn cof? Dipyn o gystadleuaeth oedd hi felly, i gael eich dewis fel y person gorau i weithio ar fferm. Rwan te, am be mae hynny'n fy atgoffa - o ia y Fferm Ffactor wrth gwrs. Ateb S4C i'r X-Factor ond bod yr enillydd yn cael 'pick up' yn wobr yn hytrach na chytundeb recordio. Mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs nos Fercher gyda Aled Rees enillodd Fferm Ffactor dair blynedd yn ôl, ond sydd rwan yn un o feirniaid y gystadleuaeth. Gofynodd Geraint iddo fo oedd o'n mwynhau bod yn feirniad ar y rhaglen? "

Amrywiol (Daf a Caryl) - Y Pum Copa

copa - summit
stido bwrw - chucking it down
dadwisgo - to undress
gwybodaeth camarweiniol - misleading information
serth - steep
yn fwy heriol - more challenging
hegar - rough
cenllysg - hail
yn benderfynol - determined
wnaethon nhw achub eu fywyd - they saved his life

"A phob lwc i bawb sy'n cystadlu ynde? Rwan ta, be dach chi'n galw plisman o Lanberis? Copa'r Wyddfa wrth gwrs. Mae'n drwg gen i am yr hen jôc, ond roedd rhaid i mi gael ffordd o ddweud wrthoch chi mod i Caryl Parry Jones wedi dringo pum copa mewn pum diwrnod yr wythnos diwetha. Mi ddringon ni i ben Pen y Fan, Carn Ingli, Cadair Idris, Moel Famau ac wrth gwrs i gopa'r Wyddfa! Rhag ofn i chi feddwl mod i wedi colli mhen yn llwyr, codi arian i Blant Mewn Angen roedden ni. 'Swn i'n licio diolch i bawb wnaeth helpu ac i bawb roiodd arian hefyd. Mi ffonion ni mewn bob dydd i wahanol raglenni Radio Cymru, jest i ddangos ein bod ni dal yn fyw! Dyma ni'n siarad efo Nia Roberts a Tudur Owen i roi blas bach i chi o'n teithiau bach ni... "

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.