Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 22 Tachwedd 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 11:27, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Ifan Evans - tenis bwrdd

efeilliaid - twins
cystadleuaeth - competition
pencampwriaeth prydeinig - British championship
unigol - individual
penderfyniad - decision
gémau'r Gymanwlad - Commonwealth games
canolbwyntio - to concentrate
naid drifflyg - trile jump
llwyddiant - success
angerddol - passionate

...efo dwy chwaer. Mae chwiroydd a chanu yn rhyw fath o themau i'r podlediad yr wythnos hon. Ond nid dwy chwaer gyffredin ydy Megan ac Angharad Phillips o Ddinbych. I ddechrau efeilliaid ydyn nhw, ond hefyd mae'r ddwy ohonyn nhw'n chwaraewyr tenis bwrdd proffesiynol. Mi fuon nhw'n siarad am eu camp efo Ifan Evans nos Fawrth, ac ar ôl gwarndo ar y clip mae gen i deimlad bach y byddan ni'n clywed llawer iawn mwy am y ddwy ohonyn nhw yn y dyfodol.

Iola Wyn - Mabli

mynychu - to attend
cwyno - to complain
cefnogi - to support
sgiliau cymdeithasol - social skills
croeso anhygoel - incredible welcome
chwerthin - to laugh
gwarafun - begrudge
dengid - to escape
druan ohoni - poor her
anghenion - needs

"Cofiwch rwan adeg y Gemau Olympaidd nesa - dyma le glywoch chi am Megan ac Angharad Phillips gynta. Mi glywon ni am ddwy chwaer arall ar raglen Iola Wyn ddydd Gwener - Cerys a Mabli Brown. Hywel Gwynfryn fuodd yn siarad efo mam y ddwy, sef Nia Ellis Brown o Fryn Coed Ifor, fel rhan o ddigwyddiadau Plant Mewn Angen. Mae Mabli'n awtistig ac fel y clywon ni gan Nia, er bod ei chyflwr hi wedi poeni'r teulu bach ar adegau, mae Mabli yn llwyddio i godi calon pawb ac yn creu llawer o hapusrwydd yn y cartref.... "

Rhaglen Nia - Angharad Jenkins

wedi ei lleoli - located
menyw - dynes
antur newydd - new adventure
argymell - to recommend
sawl cymeriad - how many characters
casglu - to collect
nod - objective
cerddorion - musicians
ymchwilio - to research
gwreiddiau cerddorol - musical roots

"Da gweld arian Plant Mewn Angen yn helpu rhieni sy'n gweithio mor galed â Nia ynde? A diolch i bawb a gyfrannodd eto eleni i godi swm enfawr at yr Apêl. Does na ddim chwiorydd yn y clip nesa ma - ond mae na ferch -Angharad Jenkins o'r grwp Calan. Hi oedd 'Yn y Ffram' ar raglen Nia ddydd Llun. Band gwerin modern ydy Calan, ond be ydy hoff gerddoriaeth, ffilmiau a llyfrau Angharad. Be am i ni fusnesu chydig...? "

Iola Wyn - Eirlys Parry

ceisiadau - requests
diwylliant - culture
cefndir cyfaethog - rich background
gyrfa - career
ailgydio - to rekindle
call - sensible
cyfryngau - media
dilyniant - progression
eich cynnal chi - to support you
canu gwerin - folk singing

"Angharad yn fan'na yn sôn am 'wreiddiau cerddorol', a dyna glywon ni gan Eirlys Parry ar raglen Iola Wyn ddydd Mercher. Mae Eirlys Parry wedi bod o gwmpas ychydig yn hirach nag Angharad cofiwch. Mi ddechreuodd hi ganu yn niwedd y chwedegau a daeth ei record 'Blodau'r Grug' allan ym mil naw saith deg. Ond wedi dweud hynny mi fuodd hi'n perfformio ar lwyfannau ac ar y teledu am flynyddoedd mawr, ac mae ei chaneuon hi dal yn boblogaidd. Yn y clip mae Eirlys yn sôn am ei bywyd cynnar a’r adeg pan ddechreuodd hi berfformio. "

Sesiwn Fach - Dafydd Iwan

archif rhyfeddol - a remarkable archive
cyhoeddi - to publish
tyrchu drwy - rummaging through
trosglwyddo - to transfer
gwarchod - to protect
dirywio - deteriorating
digyfeiliant - unaccompanied
y diweddar - the late
caewyd y clawdd - the lid was closed
deunydd - material

"Mi ddechreuodd Dafydd Iwan berfformio a recordio o gwmpas tua'r un adeg ag Eirlys Parry. Mi glywon ni raglen arbennig iawn yng nghwmni Dafydd ar Sesiwn fach ddydd Sul. Mi fuodd o'n sgwrsio efo Idris Morris Jones am ei yrfa, sydd wedi para dros hanner cant o flynyddoedd. Dan ni'n mynd i glywed rhan fach o'r sgwrs honno lle mae o'n sôn am ei waith efo cwmni recordio Sain. Mae'r cwmni wedi creu archif o ganeuon ar y cyd â Phrifysgol Bangor. Mae na recordiau prin iawn yn yr archif a dach chi'n mynd i gael clywed un ohonyn nhw ar ddiwedd y clip. Mwynhewch... "

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.