Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 31 Ionawr 2013

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 15:39, Dydd Iau, 31 Ionawr 2013

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Nia Roberts - Bethan Elfyn

cyhoeddi - to publish
gwasgaru llwch - to scatter ashes
cynhyrchiad - production
gwrth chweil - live visual art
triawd - trio
cerddoriaeth - music
arddangosfa - exhibition
celf gweledol byw - live visual art
arwyddo - to sign
pennod - episode

...efo Bethan Elfyn oedd 'yn y Ffrâm ' ar raglen Nia Roberts ddydd Llun. Mae Bethan yn cyflwyno rhaglenni ar Radio Wales ar hyn o bryd. Yn y gorffennol mae hi wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru, S4C ac ar Radio 1. Dyma Bethan yn sôn am rai o'r pethau mae hi wedi eu mwynhau'n ddiweddar. Cawn glywed am lyfr, ffilm, cerddoriaeth ac am yr Artes Mundi. Be ydy hwnna dwch? Gwrandwch ar hwn ac mi gewch chi'r ateb...

Iola Wyn - Silff Ben Tân

dwli ar - yn hoff iawn o
amddiffynol - defensive
sylweddol - substantial
siarad cyfrolau - to speak volumes
cwrcyn - tom cat
ffili claddu - couldn't bury
amlosgi - to cremate
tystysgrif - certificate
pawb at y peth y bo - each to his own
crwtyn bach - hogyn bach

"Bethan Elfyn yn fan'na yn dweud nad oedd hi'n deall popeth oedd yn yr Artes Mundi. Ac mae'n wir, mae 'na rai pethau yna sy'n edrych braidd yn od, wel i'r rhai onhonon ni sydd ddim yn deall beth bynnag. Ond tybed oes yna unrhyw beth yn yr arddangosfa sydd mor od â silff ben tan y cyflwynydd Sian Thomas? Mae Iola Wyn yn hoffi gofyn i'w gwestai be sy ar eu silff ben tân nhw, ond mi gaeth hi ddipyn o sioc wrth glywed ateb Sian Thomas... "

Blas - migraine

dioddef - to suffer
cysylltiadau - connections
nunlle - nowhere
taflu i fyny - to throw up
anableddau - disabilities
profi - to test
corff - body
traddodiadol - traditional
egni - energy
ymenydd - brain

"Wel, wel, fydda i ddim yn medru edrych ar silff ben tân neb yn yr un ffordd byth eto. Stori hollol wahanol rwan, a stori sy'n wahanol i'r rhai dan ni'n arfer eu clywed ar Blas. Nia Mair fuodd yn sgwrsio gyda merch ifanc o’r enw Lowri Price sydd wedi diodde o migraine ers ei bod hi'n ifanc iawn. Mi roedd hi'n gwybod bod ei deiet hi'n medru bod yn ffactor efo'r migraine, ond mi roedd hi'n synnu o glywed beth pa fwydydd yn union oedd yn ddrwg iddi hi. Dyma hi'n dweud yr hanes... "

Taro'r Post - Cymraeg 'cywir'

eitha crac - quite angry
ymdrech - effort
drwy gyfrwng - through the medium
parchu - to respect
gwerthfawrogi - to appreciate
purdeb - purity canmol - to praise cywirdeb - correctness gwahaniaethu - to differentiate nawddoglyd - patronising

Rhyfedd ynde fod pethau gwahanol yn medru achosi migraine i wahanol bobl? Be sy'n rhoi cur pen i chi efo'r Gymraeg? Cofio'r treigladau? Rheolau gramadeg? Wyddoch chi mae pobol sydd wedi dysgu Cymraeg yn gwybod llawer mwy am bethau fel'na yn aml iawn, nag ydy siaradwyr iaith gynta. A safon Cymraeg pobol sy'n cyfrannu i raglenni Radio Cymru oedd yn rhoi cur pen i Garry Owen yn ei wythnos gynta yn cyflwyno Taro'r Post. Dyma i chi flas ar ddwy farn wahanol ar bwysigrwydd siarad Cymraeg 'cywir' ar y Radio. I ddechrau dyma Sara Manchipp, sydd yn gyn Miss Cymru, ac wedyn mi glywch chi Eifion Lloyd Jones oedd yn arfer gweithio fel newyddiadurwr....

Cofio - Santes Dwynwen

cofleidio - to embrace pictiwrs - sinema twlu - taflu/to throw pipo - edrych hewl - heol/stryd cwrso - to chase disgwyl 'mlaen - edrych ymlaen

"Dim llawer o gariad rhwng y ddau yn fan'na nac oedd? A hynny'n yn wahanol iawn i'r bobl glywon ni ar Cofio ddydd Sadwrn. Gan ei bod yn ddiwrnod Santes Dwynwen dydd Gwener diwetha mi gaethon ni raglen ar 'gariad' gan griw Cofio. Be am orffen yr wythnos yma efo'r clip hyfryd yma o bobl Dyffryn Aman ac ardal Llambed yng Ngheredigion cofio am eu harferion caru pan oedden nhw'n ifanc... "

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.