主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Dewis Hoff Awdur Cymru

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Newyddion Newyddion | 13:06, Dydd Mawrth, 12 Chwefror 2013

Yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr, mae Radio Cymru 鈥 mewn partneriaeth 芒 Chyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru 鈥 yn trefnu cystadleuaeth i ddod o hyd i hoff awdur Cymraeg Cymru.

Ar raglen radio Nia Roberts brynhawn Iau 7 Chwefror, cyhoeddwyd enwau鈥檙 deg awdur sydd ar y rhestr fer, sef Caradog Prichard, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Price, Manon Steffan Ros, Dewi Prysor, Jon Gower, Kate Roberts, Caryl Lewis, Bethan Gwanas a William Owen Roberts.

Yn 么l Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol 主播大秀 Radio Cymru, 鈥淢ae Hoff Awdur Cymru yn brosiect cyffrous iawn, ac yn gyfle i ni drafod gwaith rhai o brif awduron Cymraeg Cymru. Ond y bobl biau鈥檙 dewis, ac fe fyddwn ni鈥檔 gofyn i wrandawyr Radio Cymru bleidleisio dros eu ffefryn o鈥檙 deg awdur sydd ar y rhestr fer 鈥 gan gyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr, 7 Mawrth, pa enw sydd wedi dod i鈥檙 brig. Mae Radio Cymru鈥檔 dathlu Diwrnod y Llyfr yn flynyddol, ond eleni rydyn ni鈥檔 falch o gael cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru i ddarganfod beth yw barn darllenwyr drwy Gymru benbaladr.鈥

Lluniwyd y rhestr fer gan banel o arbenigwyr oedd yn cynnwys dau lyfrwerthwr, dau lyfrgellydd, cynrychiolwyr Llenyddiaeth Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Merched y Wawr, Y Cymro, Golwg a Barn, yn ogystal 芒鈥檙 beirniad a鈥檙 adolygydd llenyddol adnabyddus Catrin Beard.

Yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Chwefror 2013, bydd gwesteion arbennig yn trafod dau o鈥檙 awduron hyn bob dydd ar raglen Nia. Yr wythnos ganlynol, o 25 Chwefror ymlaen, bydd modd i鈥檙 cyhoedd bleidleisio dros eu hoff awdur ar wefan Radio Cymru, a chyhoeddir enw鈥檙 enillydd ar Ddiwrnod y Llyfr, dydd Iau 7 Mawrth. I bleidleisio ewch at bbc.co.uk/radiocymru.

Y Cyngor Llyfrau sy鈥檔 cydlynu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru, a dywedodd Elwyn Jones, y Prif Weithredwr, 鈥淢ae hwn yn gyfle gwych i roi sylw i awduron Cymraeg a鈥檜 gwaith, a bydd yn sicr o annog llawer o drafodaeth ddiddorol ynghylch y rhestr fer, heb s么n am yr enillydd ei hun. Mae Diwrnod y Llyfr yn dathlu pwysigrwydd llythrennedd a darllen er mwyn pleser, ac rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Radio Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar y gystadleuaeth hon.鈥

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, 鈥淩ydym ni yn Llenyddiaeth Cymru wrth ein bodd yn cydweithio 芒鈥檙 主播大秀 a鈥檙 Cyngor Llyfrau ar gynllun newydd, cyffrous. Mae鈥檔 rhoi cyfle i鈥檙 bobl bwysicaf oll 鈥 y darllenwyr 鈥 gymryd rhan mewn ymgyrch i hyrwyddo awduron Cymraeg, ac i gael hwyl yr un pryd trwy bleidleisio dros eu hoff awdur. Rwy鈥檔 edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed y canlyniad!鈥

Rhestr Fer Hoff Awdur Cymru

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.