Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Unnos Drama: Blog cyntaf y noson

Drama Un Nos | 19:46, Dydd Mercher, 27 Chwefror 2013

Ìý

Dwi wedi cyrraedd Bryn Meirion Bangor ar gyfer sesiwn Unnos Drama. Mi oedd Ian Rowlands yma yn aros amdanai, yn gynnar, sy'n rhyfadd achos o'n i'n meddwl ella sa fo'n hwyr. Mi gyrhaeddodd Aled yma bang ar amser. Dwi newydd ei rhoi nhw ar waith i ysgrifennu drama radio chwarter awr fydd yn cael ei recordio gyda tri actor yn hwyrach heno/bore fory ac yn cael ei darlledu ar Radio Cymru i'r byd a Betws Gwerfil Goch pnawn fory.
Ìý
Fe gawso nhw amlen gyda'r geiriau 'Unnos', 'Dydd', 'Gwyl' a 'Dewi' ynddi, geiriau fysai o bosib yn sbardun iddyn nhw wrth weithio. Fe sgrwnshiwyd rhain a'u taflu ymaith, ryw deimlo yr oedd Aled ac Ian mai llechen gyfangwbwl lan fyddai orau. Fe gawso nhw amlen arall yn datgelu rhywfaint o wybodaeth ynglyn ar actorion hefyd ondÌýnid eu henwau, felly tydynÌý nhw dal ddim yn gwybod pwy fydd yr actorion fydd yn perfformio y gwaith terfynol. Chymrodd yr un o'r ddau fawr o sylw o'r wybodaeth yma chwaith, dwi medwwl bod y ddau wedi cyffroi gormod gyda'r cyfle o gael sgwennu darn o ddrama ar gyfer y radio,Ìýma nhw'n edrychÌýymlaen iÌýgael gweithio tu hwnt i ffiniau arferol y theatr neu'r teleduÌýa neidio i fyd di-ddiwedd ei bosibiliadau.
Ìý
Roedd y ddau sy'n arfer gweithio ar ei pen eu hunain yn ysu i gael gweithio efo'i gilydd ....ar hyn o bryd beth bynnag.

Gwyn Eiddior

Ìý

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.