Y sgript yn barod... rwan i recordio'r ddrama!
Ma hi'n 04:30am... ma hynny yn hwyr, neu yn gynnar - dwi ddim yn siwr bellach be ydi be!
Fel ddwedodd Dyfrig Evans (un o actorion Unnos Drama) yn gynharach yn y noson "dwi'n siwr sa chi wedi gallu gwneud hyn yn ystod y dydd"!
Mae Ian Rowlands ac Aled Jones Williams wedi gorffen eu gwaith ysgrifennu ers toc cyn 04:00am, ac mae'r actorion (a Gwyn) newydd fynd lawr i'r stiwdio i gychwyn ar y gwaith o recordio'r ddrama.Â
Dan amgylchiadau arferol dwi'n siwr na fasa hynny yn cymryd cymaint a hynny (mae nhw i gyd yn actorion proffesiynol wedi'r cwbwl) - ond am 04:30am, wn i ddim faint o siap actio sydd ar unrhyw un ohonom ni!
Wnes i son fod Dyfrig Evans wedi dweud yn gynharach yn y noson "dwi'n siwr sa chi wedi gallu gwneud hyn yn ystod y dydd"?!
Basan, mi fasa ni wedi - ac mae'n bosib y basa'r gwaith wedi ei gwblhau ychydig yn gynt (mae bod ar ddeffro yn helpu medda nhw wrtha i) - ond fasa hi ddim yn Unnos Drama wedyn na fasa!