Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 07 Mawrth 2013
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Ìý
Byd Iolo - Moel Siabod
cwmpawd - compass
hanner tunnell - half a ton
paratoi - to prepare
technegol - technical
caib rhew - ice pick
bywyd gwyllt - wild life
cigfran - raven
olion - tracks
copa - summit
ffau - den, lair
ac mae hi wedi bod yn wythnos fendigedig, yn do? Yr haul yn gwenu a'r gwynt yn oer; tywydd perffaith i fynd i gerdded ac i ddal annwyd! Yr wythnos yma aeth Iolo Williams i ben Moel Siabod, mynydd sy'n sefyll uwchben Betws-y-coed a Chapel Curig yn Eryri. Roedd Dewi Davies, Prif Warden Parc Cenedlaethol Eryri, yn cadw cwmni i Iolo ac roedd gynno fo neges bwysig ynglŷn â beth ddylai pob mynyddwr ei wisgo wrth ddringo mynyddoedd yn y gaeaf.
Iola Wyn - Snakeman
dyfalu - to guess
lan - fyny
tafod - tongue
tasto - blasu
dwlu arna i - to dote on me
gwynto - to smell
cnoad - a bite
nodwyddau - needles
cludo - to carry
hela - to hunt
Ac o fywyd gwyllt Eryri i anifeiliaid anwes yr awn ni nesa'. Mi gafodd Iola Wyn y pleser o gyfarfod Nauticus ddydd Mercher, anifail anwes Geraint Hopkins. 'Sgwn i os allech chi ddyfalu pa fath o anifail ydy Nauticus?!
Geraint Lloyd - Parafeddyg
neidr - snake
parafeddyg - paramedic
hyfforddiant - training
pencadlys - headquarters
ar alwad - on call
amrywiaeth - variety
cwmpo - disgyn
atebol i - accountable to
eang - vast
benu - gorffen
Wnaethoch chi ddyfalu'n gywir? Ia, neidr ydy Nauticus. Iola druan, doedd hi ddim yn swnio'n falch iawn o'i gyfarfod! Dw i'n siwr y bysa'n well ganddi fod wedi cyfarfod ag Eirwyn Davies! Parafeddyg ydy Eirwyn Davies a dyma fo'n sgwrsio gyda Geraint Lloyd nos Lun am ei swydd ddiddorol ac am yr hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer gwneud y gwaith.
Nia Roberts - Catherine Tregenna
datgelu - disclose
cyfrinach - secret
strwythur - structure
llys ynadon - magistrates' court
euog - guilty
llofruddiaeth - murder dygymod (â\ag) - to stomach dosbarth gweithiol - working class cwpla - gorffen gwallgo - mad
Ac o fyd y parafeddyg o Geredigion i'r ddrama deledu 'Casualty' yr awn ni nesa'. Yr actores a'r sgriptwraig Catherine Tregenna ddaeth i siarad gyda Nia ddydd Llun. Mae Catherine wedi ysgrifennu ar gyfer ‘Casualty’, ‘The Bench’, ‘Law & order UK’ a ‘Lewis’. Be' sy'n gwneud drama deledu dda? Dyma Catherine i ddatgelu'r gyfrinach.
Caryl a Daniel - Sgarlets
gwael - poor yn ein tro - in our time penawdau - headlines rhwyg - tear anaf - injury llawdriniaeth - operation carthion - sewage rysáit -
Dach chi'n licio partis? Beth am barti pen-blwydd, Nadolig neu flwyddyn newydd? Dw i'n siŵr ein bod ni gyd wedi bod mewn partis gwael yn ein tro. Parti flwyddyn newydd yng nghwmni cwrw fflat, DJ gwael a 'Party Poppers' wedi torri. Aeth Caryl a Dan i Barc y Sgarlets yn Llanelli fore Gwener i siarad â Rhys Priestland. Cofiwch, mae Rhys yn aelod o dîm rygbi Cymru yn ogystal â'r Sgarlets, ac mi fysech chi'n meddwl y bysa aelod o'r tîm cenedlaethol yn cael partis gwych! Ond, ar ôl brifo ei goes cyn y Nadolig llynedd chafodd Rhys ddim mwynhau dathlu'r flwyddyn newydd. Dyma Rhys gyda'i hanes.