主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bobi Jones Adnabod Awdur:
Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun

Cyngor bardd i ddarpar feirdd gan Bobi Jones

Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
Holi Bobi Jones, bardd, beirniad llenyddol ac ysgolhaig sydd newydd gyhoeddi cyfrol am ganu mawl.


Enw:
Robert Maynard Jones (Bobi Jones)

• Beth yw eich gwaith?

Athro Prifysgol wedi ymddeol.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Addysgu, erioed.

• O ble鈥檙 ydych chi鈥檔 dod?

Caerdydd.

• Lle鈥檙 ydych chi鈥檔 byw yn awr?

Aberystwyth.

• Pam barddoni a llenydda?

I foli Duw.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Dafydd ap Gwilym

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Ar wah芒n i鈥檙 Beibl, Y Gomedi Ddwyfol, Dante.

• Pwy yw eich hoff fardd?

Heblaw Dafydd ap Gwilym, Waldo Williams.

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Heblaw Dante, Marwnad Llywelyn ap Gruffydd gan Ruffydd ap yr Ynad Coch.

• Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?

D. H. Lawrence.

• Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym mha ffordd?
Trosedd a Chosb, Dosdoiefsci -
y syniad o stori dda,
cymeriadu鈥檔 gyfoethog,
awyrgylch gafaelgar.
Yr oedd yn brofiad ysbrydol, fel nofelau eraill D.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Dwy Briodas Ann gan Saunders Lewis gyda Myfanwy Talog.

• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?

Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd: Luc 22,2.

• Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd neu lenor?

Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Gostyngeiddrwydd.

• Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?

Pechadur
Credadun
Gorfoleddwr

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鈥檔 ei edmygu fwyaf a pham?
Heblaw Iesu Grist rhaid imi enwi dau, y Brenin Dafydd a'r r Apostol Paul oherwydd eu mynegiad barddonol o鈥檙 gwirionedd ac oherwydd eu bywydau lliwgar.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Diwygiad 1762 yn Llangeitho.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

Ann Griffiths.
Gweddio gyda鈥檔 gilydd.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded drwy Sir Benfro gyda鈥檓 gwraig oherwydd harddwch y ddwy.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Rhaid cael panas. Cig eidion, tatw rhost, pys ffres (byth wedi eu rhewi), ffa, ysgewyll Brwsel, grefi.
Hufen i芒 wedyn.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Cerdded,
Darllen
a darllen.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Oes, mae arnaf ofn, cyfrol o gerddi.

• Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi eu cyfansoddi?

Dim.

• Pam Bobi Jones weithiau ac R. M. Jones droeon eraill?

Dechreuodd fel Bobi Jones oherwydd mai dyna fel y鈥檓 gelwid yn llencyn (ac o hyd). Mae鈥檙 plentyneiddiwch yn duedd byth.
Rhoddais gyfrol mewn cyfres addysgol i鈥檓 pennaeth, Jac L. Williams, heb ei llofnodi. Ef么 a鈥檓 henwodd yn R. M. Jones. Fe鈥檌 defnyddiais wedyn i gynrychioli鈥檙 agwedd dreth incwm ar fy mywyd - y gwaith academaidd fel arfer. Does dim cysondeb. Ac mae hynny hefyd yn wendid cyson.




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy