Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Emyr Davies Adnabod Awdur:

Emyr Davies

Golygydd Sgorio

Dydd Iau, Ionawr 3, 2002
Enw:
Emyr Davies.

Beth yw eich gwaith?
Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr/
Sylwebydd
.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu am ddeng wythnos.

O ble’r ydych chi¹n dod?
Yn enedigol o Lanymddyfri ond cefais fy magu ym Monymaen, Abertawe.

Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?

Caernarfon.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.
Do’n ni ddim yn ddisgybl da ac yn blentyn gwrth-sefydliad, o’dd yn gwneud ‘i ore’ glas i beidio cydymffurfio. Ond gyda threigl amser rwyf wedi dod i werthfawrogi ymdrechion fy athrawon.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Ar ôl tair ar ddeg o gyfresi Sgorio ar S4C ro’n i’n teimlo y byddai’n braf cael cofnod ysgrifenedig am y rhaglen.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Y Merlyn Du.

A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Na.

Pwy yw eich hoff awdur?
Michael Connelly.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Ich und Du.

Pwy yw eich hoff fardd?
Dylan Thomas.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Do not go gently into that good night.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
You’re not quite lovers and your not quite friends after the thrill is gone.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Rebel without a cause
C’mon Midffild


Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Gorau Chwarae, Cyd-chwarae

Pa un yw eich hoff air?
Ansbaradigaethus

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Byddai unrhyw ddawn yn dderbyniol

Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Graslon,
Amyneddgar,
Celwyddgi

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Mae’r rhestr yn hirfaith

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

Nelson Mandella. Mi fu’n barod i ddioddef dros ei achos a llwyddodd i gadw ei urddas drwy’r cyfan.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y daith lwyddiannus gyntaf i’r lleuad ac yn ôl.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Neil Armstrong.
"Wyt ti wedi cerdded ar y lleuad neu ai twyll oedd y cyfan?"

Pa un yw eich hoff daith a pham?

Cerdded dros y bryn o Gwmtydu i Gei Newydd, a hynny ar ddiwrnod oer, clir. Mae’r olygfa dros y mor i gyfeiriad Penllyn ac Eryri pan fo’r mynyddoedd dan haenen o eira yn hynod o drawiadol.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cig moch wy a chips.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?.
Bod yng nghwmni fy nheulu a’m ffrindie a chware pump-bob-ochr.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Du a Gwyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gwasanaeth iechyd am ddim i bawb

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nagoes

Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

Tase rhywun wedi dweud ar ddechre’r tymor bod Abertawe yn mynd i ennill Cwpan yr FA, a Chymru yn mynd i ennill Cwpan y Byd, go brin y bydden i wedi’i goelio

Darllenwch yn awr am Sgorio



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy