主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Machraeth Holi awdur:
Machraeth


Bardd ac englynwr

• Enw:
Robert John Henry Griffiths. (Machraeth).

Beth yw eich gwaith?
Athro (dirprwy) wedi ymddeol. Bum yn ddirprwy brifathro am 20 mlynedd.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Clercio mewn gwahanol swyddi;
Taniwr ar y m么r.
Ar fferm, a nifer o swyddi eraill.

O ble鈥檙 ydych chi鹿n dod?
Bodffordd Sir F么n ond yn enedigol o Lanrhuddlad ac wedi byw o bump oed yn Llanfachraeth.

Lle鈥檙 ydych chi鹿n byw yn awr?
Cilfach y Bardd, Bodffordd.

Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?
Ennill Cadair y Wladfa ym Mhatagonia.

Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
惭么苍-驳测蹿补谤肠丑颈辞苍. - llyfr o englynion yn cynnwys tua 300 ohonynt.
Ffrwyth llafur eisteddfod a thalwrn yn ogystal 芒 chofio hwn a'r llall.
Pobl yn cymell.

Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu?
Stori a Ch芒n.
Cerddi Machraeth.
Yr Hwch a Cherddi Eraill.
Llew Llwydiarth.
Gwenan a Dagrau'r Daith.
惭么苍-驳测蹿补谤肠丑颈辞苍.


Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Ynys y Trysor

A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?

Na fyddaf - ond yr wyf wedi darllen llyfrau Daniel Owen i gyd tua phum gwaith trosodd.

Pwy yw eich hoff awdur?
Daniel Owen.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Barddoniaeth I. D. Hooson.

Pwy yw eich hoff fardd?
Anodd dweud - mae nifer ohonynt.
R. Williams Parry, I. D. Hooson; T. H. Parry-Williams; Cynan; Gerallt Lloyd Owen; Dic Jones.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Anodd eto.
Mae Y Llwynog gan Williams Parry a'r Llwynog I. D. Hooson yn sicr. Hon gan THPW; Mab y Bwthyn gan Cynan; Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen a Cynhaeaf Dic Jones.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ni allaf ddianc rhag hon.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
How Green Was My Valley?
Cefn Gwlad
.

Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Enoc Huws
Cas - Capten Trefor

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Rhaid cropian cyn cerdded.

Pa un yw eich hoff air?
Meddyliwch

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu yn well

Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Mae'n rhy blaen.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Methu a dweud Na wrth gymdeithasau a chapeli.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Ghandi.
Fe sadodd dros ryddid ei wlad yn union fel yr oedd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Bod wrth ochr Hedd Wyn yn ffosydd Ffrainc pan oedd yn llunio'i awdl.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Hitler.
I beth y difethaist fy mywyd?

Pa un yw eich hoff daith a pham?

Patagonia - gweld 么l ymdrech y Cymry cyntaf yno.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Lobsgows.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Gwylio p锚l-droed.
Barddoni.
Canu tenor efo Lleisiau'r Frogwy.
Pregethu 芒 phob enwad ymneilltuol.

Pa un yw eich hoff liw?
Coch.

Pa liw yw eich byd?
Du a gwyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rhyddid i'm gwlad.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes rywbryd - Cywyddau Machraeth

Pa linellau o'ch barddoniaeth ydych chi'n fwyaf balch ohonynt?
Rhosyn
Tros nos bu farw'r rhosyn - a wylodd
Ei betalau claerwyn
Yn hydre'r ardd, ond er hyn
Oeda ei bersawr wedyn

MongyfarchionEwch i ddarllen
am 惭么苍-驳测蹿补谤肠丑颈辞苍.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy