主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Mongyfarchion
Bardd dwy awen

Englynion amrywiol bardd o F么n

Chwefror 2003

M么n-gyfarchion gan Machraeth.
Casgliad o englynion a gyhoeddir gan yr awdur ei hun. 拢5.95.


Mae'r Prifardd Ieuan Wyn, mewn cyflwyniad i'r casgliad hwn o englynion yn cyfleu i'r dim natur Machraeth fel bardd.

Mae'n ei alw ar y naill law yn fardd byrfyfyr ac ar y llaw arall yn fardd hirfyfyr.

Ffrwyth dwy awen

Does yna ddim croesddweud yn y fan yna ac mae enghreifftiau o ffrwyth y ddwy awen ymhlith y 300 a mwy o englynion sy'n cael eu cynnwys yma.

Mae Machraeth yn un o'r Cymry hynny sydd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol nag wrth ei enw go iawn, Robert John Henry Griffiths, a hynny ar sail ei gynnyrch awenyddol yn ei fro ac ar lwyfan ehangach hefyd fel eisteddfodau ar hyd a lled Cymru ac fel un o feirdd cyson y Talwrn ar radio ac yn y Genedlaethol.

Mae o hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa.

Mae yn arferiad wrth gyhoeddi cyfrolau barddoniaeth i gyfyngu'r nifer i ddim llawer mwy na deucant. Dyna, medden nhw, faint y farchnad waeth pwy ydych chi fel bardd.

Y cyfyngiad hwn a barodd i Fachraeth gyhoeddi ei hun gan ei fod o yn gwybod fod mwy na hynny o farchnad i rywbeth o'i law ef.

Gwir, mai marchnad leol sydd i'w waith gan fwyaf ond ta waeth am hynny mae'n braf gweld bardd nid yn unig a hyder yn yr hyn y mae'n wneud ond yn fodlon profi'r hyder hwnnw gyda'i law yn ei boced a chynnal ei fenter gyhoeddi ei hun.

A phe byddai pob un y mae englyn iddo yn y gyfrol hwyliog hon yn prynu byddai hynny yn gychwyn da - tynnwch wedyn deulu a chydnabod i'r siop ac . . . wel does dim angen Keynes i weld lle da ni'n mynd.

Awen fyrfyfyr

Fel y dywed Ieuan Wyn, cynnyrch yr "awen fyrfyfyr" yw llawer o englynion y gyfrol hon ac y mae hwnnw yn draddodiad digon derbyniol a pharchus yng Nghymru - sef cyfansoddi englynion neu gerddi ar fyr rybudd yn ymateb i ryw ddigwyddiad.

Yn aml, does dim amser i'r bardd hir-fyfyrio gan fod angen yr englyn neu'r gerdd rhag blaen i gofio rhyw ymadawedig neu i nodi rhyw achlysur.

Mae'n ddawn go arbennig, neu fel y dywed Ieuan wyn:

"Mae sydynrwydd o'r fath yn fedr penodol, ac mae llunio cyfarchiad o fewn rheolau'r gynghanedd a mesur yr englyn unodl union yn gyfuniad o ddawn a chrefft a hir ymarfer."

Cynganeddu ar amrantiad

Yn achos Machraeth ei hun dywed y gall, "gynganeddu ar amrantiad ac mae'r creu hwn wrth sgwrsio, a britho'i ymddiddan efo llinellau o gynghanedd, yn rhywbeth y mae beirdd cerdd dafod wedi ymhyfrydu ynddo drwy'r canrifoedd."

Mae yma ddegau o englynion yn yr olyniaeth hon;
Helen Trisant yn 80 oed ar y ddalen gyntaf er enghraifft:

Helen, bu lot o holi - a oeddech
Chi heddiw yn eighty;
Mor lawen eich awen chwi,
Na chwtiwch, daliwch ati.

Ond nid yw'n cyfyngu ei hun i bethau M么n;

Plant Bach Dunblane yn yr Alban
Un ar bymtheg o egin - o'r un oed!
A'r un wedd gyffredin
Yn aros ar gof gwerin
yn graith oedd rhy fawr i'r sgr卯n.

Yr adegau y galla rhywun fod yn go sicr fod englyn yn wir fyrfyfyr yw pan fo'n gynnyrch cystadleuaeth fel un englyn y dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac y mae sawl ymgais fuddugol yma fel hwn i Bagette o Eisteddfod Glyn Nedd:

Mae fel kayak 'di bacio - gyda chaws,
Gyda chig neu golslo
Mewn ceg average mae'n wejio,
Lwc y jiawch na ches lockjaw.

Derbyniodd y nesaf fendith y meuryn yn Eisteddfod Llanelwedd:

Bwci
Byw ar lwc y mae'r bwci - a gyrru
Plant gwerin i dlodi,
Un hirben a wn芒i ddarbi
O ryw fath i gath neu gi.

Oherwydd eu natur mae'r englynion hirfyfyr trwy ddiffiniad yn wahanol o ran naws.

"Ffrwyth profiad bywyd yw y rhain. Maent yn codi, nid yn gymaint o'i ymwneud beunyddiol 芒'i bobl a'i ddiddordebau, ond o'i ymglywed 芒'r hyn sy'n ei gyffwrdd yn nwfn ei bersonoliaeth neu sy'n ei gyffroi i roi ei farn ar faterion amrywiol y dydd," meddai Ieuan Wyn.

Mae'r rhain yn deillio o hir fyfyrdod ac o bwyso a mesur bywyd ac o egwyddorion ac er bod y pethau hyn hefyd yn lliwio'r cyfansoddiadau byrfyfyr yn yr englynion eraill y maent ar eu gorau gan ddangos fod yma fardd gyda chydwybod cymdeithasol, moesol a chrefyddol.

Ymfudwyr i F么n
Rhywsut d么nt yma yn rhesi - dwyn ein sir
Heb danio siot ynddi;
Gwneud tir estron ohoni,
Gwneud ail iaith o'n heniaith ni.

Neu
Trueiniaid y Byd
Rhai'n anniddig uwch digon - ac eraill
Yn gwario yn wirion,
A rhai ar y ddaear hon
A g芒nt bresant o'n briwsion.

Ond dydi'r rhai hynny ychwaith ddim yn brin o hiwmor lle mae galw am hynny gan wneud y gyfrol hon yn un amrwyiol o ran ysbryd yn ogystal ag o ran testun.

Gyda cymaint o englynion wedi eu cynnwys nid yw ond naturiol fod rhai yn gryfach na'i gilydd a thybed na fyddai'r gyfrol wedi bod ar ei hennill yn dilyn ychydig o chwynnu a hepgor ambell un ddisylwedd.

Holi'r awdur


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy