Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
C2
Theatr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Glyn Pritchard Tanio'r
llosgfynydd


Cynhyrchiad newydd yn arwyddbost i'r dyfodol

Ebrill 2004
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Cynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru
Adolygiad gan Jon Gower


Ewch hefyd i ddarllen am
Yr ymateb i'r noson gyntaf

Meddai Jon Gower:
Mae 'na rywbeth folcanig am waith Meic Povey - tensiynau a chyfrinachau'n ffrwtian fel lafa dan yr wyneb, yn mud-ferwi nes bo pethau'n rili chwythu'i fyny.

Yn ei ddrama, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi mae teulu'n dod at ei gilydd ar ôl claddu'r fam a'r broblem fawr i'w datrys yw pwy sy'n mynd i edrych ar ôl y mab sy'n dioddef o sgitsoffrenia.

Bydd y mynydd yn chwythu, sdim dowt am hynny…

Yn nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru roedd yr actorion yn chwarae cyn dynned ag unrhyw bedwarawd llinynnol.

Pitsio'n berffaith
Glyn Pritchard oedd yn chwarae'r anffodusyn, Derec, gan smocio, neu o leia danio sigarets yn ddiddiwedd.

Y castGallai fod wedi hawlio pob golygfa gan efelychu Dustin Hoffman yn Rainman ond roedd Glyn Pritchard wedi pitsio'r rhan yn berffaith, yn stumio heb ddwyn y sylw.

Doedd ei chwaer Olwen (Gwenno Hodgkins) heb fod i'w weld ers hydoedd a dim lle yn ei bywyd dosbarth canol ar y Wirral i frawd sy'n llenwi ei drôns a hithau bron wedi ei pharlysu gan y ddilema.

Dynes oer, nid o ran natur ond o ran dosbarth - sy'n medru bod yn waeth.

Portread cyhyrog
Roedd y brawd arall, Glyn (Bryn Fon) wedi dewis aros ym mro ei febyd a'i rwystredigaethau a'i genfigen wedi creu dyn tanllyd, treisgar.

Cafwyd portread cyhyrog o ddyn sy'n eitha sâl ei feddwl ynddo ef ei hun.

Mae ei wraig, Elin, yn glwtyn llawr a Siw Hughes yn ei chwarae hi'n angylaidd o oddefgar.

Marciau llawn i Cefin Roberts, y cyfarwyddwr artistig hefyd am greu noson wirioneddol theatrig gan ychwanegu at dduwch y sgwennu.

Rhythmau a sain

Cadwodd rythmau'r ddrama yn fyw a gwneud yn hollol siwr fod y gynulleidfa'n cael noson bleserus o anghysurus wrth weld pob peth ym mynd ar chwâl yn yr hen dy Cymreig ar lethr mynydd.

Roedd yr effeithiau sain a'r defnydd o gorws i gyfleu y lleisiau ym mhen Derec yn hynod effeithiol a'r set ei hun - wedi ei ysbrydoli gan un o fythynnod Mynydd Llandygai yn ychwanegu at glawstroffobia'r sefyllfa.

Arwyddbost
Nid noson gyntaf gyffredin mo hon ond yn hytrach rhyw fath o arwyddbost at ddyfodol cwmni cenedlaethol newydd.

Fel un sydd wedi ei sbwylio gan bethau gwych ar lwyfan eleni - Eugene Onegin y Cwmni Opera Cenedlaethol a Brian Wilson yn perfformio'r albwm cudd Smile mae'n rhaid dweud fod y cynhyrchiad hwm yn brofiad llawn cystal.

Byddaf yn mynd i weld Ti a Fi eto yn ystod ei thaith, sy'n gymeradwyaeth ynddi'i hun.

Gweddill y daith:

Theatr Torch, Aberdaugleddau - Ebrill 29 - Mai 1
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Mai 6-7
Theatr Taliesin, Abertawe - Mai 13 - 15
Theatr Gwynedd, Bangor - Mai 20 - 22
Theatr Sherman, Caerdydd - Mai 27 - 29

Ymateb i'r noson gyntaf





Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy