主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
主播大秀 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
C2
Theatr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Cychwyn oedd
yn plesio


Ymateb da i gynhyrchiad cyntaf cwmni newydd

Ebrill 2004
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru
Ymateb i'r noson gyntaf

Gweler hefyd -
Adolygiad gan Jon Gower

Yr oedd y bodlonrwydd yn amlwg ar wynebau criw cwmni newydd Theatr Genedlaethol Cymru yn dilyn eu perfformiad cyntaf un.

Nid yn unig cafwyd cynulleidfa deilwng o ran nifer ym mhrif awditoriwm Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug ond yr oedd hi hefyd yn gynulleidfa hynod werthfawrogol.

Ac wedi'r perfformiad dywedodd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Cefin Roberts, iddo yntau gael ei blesio'n fawr gan yr ymateb a'r perfformiad ei hun.

"Mae'r actorion wedi rhoi y perfformiad oeddwn i eisiau," meddai. Ac o holi rhai o'r gynulleidfa wrth iddi adael y theatr prin iawn oedd y feirniadaeth o'r cynhyrchiad o ddrama ysgytwol Meic Povey, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, yn darlunio cyflwr teulu y mae un aelod yn sgitsoffrenig.

Nodedig
Yr oedd cytundeb cyffredinol inni gael perfformiadau nodedig gan Glyn Pritchard fel Derec y sgitsoffrenig a Bryn Fon fel Glyn, y brawd y mae Derec yn byw gydag ef a'i wraig, Elin (Siw Hughes).

Yr unig gymeriad arall oedd Olwen (Gwenno Elis Hodgkins), chwaer Derec a Glyn, sydd yno o Loegr ar gyfer cynhebrwng eu mam ac i benderfynu beth fydd tynged Derec yn awr bod Mam wedi mynd.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynyrchiadau Cymraeg yn Theatr Clwyd llwyddodd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru i ddwyn persw芒d i lwyfannu Yn Debyg Iawn i Ti a Fi yn y brif theatr yn hytrach nag yn Theatr Emlyn Williams, llawer iawn llai, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r seddau wedi eu gwerthu ar gyfer y noson agoriadol gyda dros 400 o docynnau wedi mynd ymlaen llaw.

Chwyddwyd yr elfen ifanc yn y gynulleidfa gan lond bws o fyfyrwyr ysgol berfformio, Ysgol Glanaethwy ger Bangor.

"Yr oeddem yn awyddus fod cynhyrchiad cyntaf y cwmni ar brif lwyfan er mwyn delwedd y cwmni fel y prif gwmni cenedlaethol," meddai John Gwynedd Jones, rheolwr cyffredinol y cwmni newydd.

Yn ystod, ac wedi'r perfformiad, yr oedd ymateb y gynulleidfa yn frwd i ddrama sy'n sicr a llithrig ei deialog a chydag elfennau cynhyrchu oedd yn plesio gan gynnwys set drawiadol gan Setfree.

Cychwyn calonogol
Heb amheuaeth, bu'n gychwyn calonogol i'r cwmni newydd ac yn arwydd o'r safon y gall cynulleidfaoedd ei disgwyl yn y dyfodol.

"Hwn oedd fy nghynhyrchiad i ac yr oedd yr actorion wedi rhoi y perfformiad oeddwn i eisiau ac mi rydw i'n ddiolchgar iddyn nhw am wneud hynny mor dda ac mor sensitif," meddai Cefin Roberts wrth dalu teyrnged i'r actorion pan yn siarad am ei gynhyrchiad gyda 主播大秀 Cymru'r Byd yn syth wedi perfformiad.

"Os nad yw'r genedl eisiau y cynhyrchiad hwn fyddan nhw ddim eisiau dim byd gen i," ychwanegodd.

Bryn Fon, Glyn Pritchard a Gwenno HodgkinsDywedodd na fu'n anodd dewis y ddrama arbennig hon ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf.

"Yr oedd yn hawdd, oherwydd mae'n chwip o ddrama - yn ddrama rymus," meddai gan gyfeirio'n arbennig at yr her yr oedd yn ei chynnig i actorion a chynulleidfa.

"Yr oedd yn her inni gyd - ac mae hynny'n well na bod yn rhy s芒ff - ac fe gymerodd yr actorion yr her ac mae hynny gymaint gwell na chynnig rhywbeth hawdd dygymod 芒 fo," meddai.

Canmoliaeth seiciatrydd
Hyd yn oed cyn y perfformiad yr oedd y ddrama wedi ennill cymeradwyaeth un o seiciatryddion amlycaf Cymru, y Dr Dafydd Alun Jones.

Ond yn ogystal 芒 chanmol y portread o'r claf ei hun canmolodd hefyd y modd y creodd Meic Povey y cymeriadau eraill:
"Sylweddolais fod yr awdur hefyd yn dangos agweddau o bersonoliaeth a meddwl y tri chymeriad arall, sy'n dangos mor agos at ffin yr abnormal y maent hwythau hefyd yn medru bod," meddai yn rhaglen y cynhyrchiad.

Yr oedd hynny yn arbennig o wir am Glyn gyda pherfformiad Bryn Fon yn gymysgedd iasol o'r teimladwy a'r sinistr.

"Nodwedd o sgitsoffrenia ydi'r ymddatod sy'n digwydd yng nghlymau a rhediad y meddwl, a'r llacio yn y gafael ar realiti. Mae'r ddrama hon yn dangos mor agos, o'r ochor arall, ydi'r cymeriadau eraill hefyd at y ffin honno," meddai Dr Dafydd Alun Jones.

Denu pobl yn 么l
Dyna felly, gychwyn taith i ddenu cynulleidfaoedd yn 么l theatrau Cymru.

"Does dim dwywaith fod yna drai wedi bod ar gynulleidfaoedd y Theatr Gymraeg yn ystod y 1990au, ond mae sawl arwydd fod pethau'n gwella, rydym yn hyderus y bydd y cwmni'n gallu cryfhau'r don ddiweddaraf sydd eisoes wedi troi'r trai yn llanw pendant, ac elwa ar y profiad," meddai Cefin Roberts gan ychwanegu mai'r her fydd cynnig amrywiaeth o theatr o safon yn ei holl amrywiaeth.

"Beth bynnag fo'r arddull, ein nod yw ymgyrraedd at y safon uchaf posib gyda rhaglen mor amrywiol a phosib.

Addawodd hefyd wrando ar farn cynulleidfaoedd:
"Mae gan y gynulleidfa lais hefyd, wrth gwrs, a'n gwaith ni fydd rhoi clust i'r farn honno, beth bynnag y bo," meddai.

Gweddill y daith:
Theatr Torch, Aberdaugleddau - Ebrill 29 - Mai 1
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Mai 6-7
Theatr Taliesin, Abertawe - Mai 13 - 15
Theatr Gwynedd, Bangor - Mai 20 - 22
Theatr Sherman, Caerdydd - Mai 27 - 29

Adolygiad gan Jon Gower





Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy