主播大秀

Steffan Rhodri

Steffan Rhodri yn paratoi i ymddangos ar Mastermind Cymru Nadolig 2009

13 Chwefror 2012

Actor ffilm a theledu sy'n dweud mai'r theatr yw ei gariad cyntaf.

Mae llawer yn adnabod Steffan Rhodri fel Dave y gyrrwr bws yn y gyfres deledu boblogaidd Gavin & Stacey neu fel Andy yn y gyfres Gymraeg, Con Passionate.

Mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Cymru ers blynyddoedd ond, er ei lwyddiant ar y sgr卯n fach, mae'r tad i ddau o blant yn dweud ei fod hapusaf yn ei fywyd proffesiynol yn y theatr pan mae'n ymarfer drama lwyfan - mae'n brofiad mwy 'pur ac uniongyrchol' na theledu, meddai.

Bu'n gwneud llawer o waith i gwmni Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug - gan actio mewn degau o gynyrchiadau - ac yn 2000 bu'n gweithio yn Theatr y Globe, Llundain, yn actio yn y Tempest a Two Noble Kings.

Cafodd ei fagu yn Nhreforys gyda byd y ddrama yn ei waed: roedd ei fam a'i dad yn hoelion wyth cwmni drama Gymraeg Abertawe. Wedi ymddeol daeth ei dad, Glyn Ellis, yn actor proffesiynol a chwaraeodd ran Dan Llywelyn yn Pobol y Cwm.

Dechreuodd Steffan actio pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera fel aelod o Theatr Ieuenctid Cymru a Theatr Gorllewin Morgannwg. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Caerwysg.

Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn actor ffilm llwyddiannus hefyd.

Yn 2010 ymddangosodd yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows fel Reg Cattermole, un o gymeriadau'r Ministry of Magic.

Yn 2009, ymddangosodd fel cystadleuydd ar raglen Nadolig Mastermind Cymru 主播大秀 Cymru gyda Maria Pride, Huw Stephens a Non Evans. Ei bwnc arbenigol oedd Hanes Maes Sain Helen.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Llyfrau

A-Z Awduron

Cyfle i bori drwy ein harchif a darganfod mwy am awduron Cymru.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.