主播大秀

Steffan Rhodri: Actor

21 Hydref 2009

Pwnc arbenigol: hanes maes Sain Helen

Oeddech chi'n hapus efo'ch perfformiad?

Ro'n i'n eitha hapus ond yn weddol rhwystredig gyda'r rhai ges i'n anghywir.

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?

O'n, wrth gwrs! Mae'r gadair yn rhywbeth mor eiconig ond es i'n llai nerfus ar 么l cael rhyw ddau neu dri chwestiwn yn iawn.

Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Dewisais i hanes Sain Helen am fy mod i eisiau hel atgofion - rhesymau eitha sentimental oedd gen i mewn ffordd er cof am fy nhad, a fu farw bedair blynedd yn 么l nawr. Fe wnes i hala lot o amser gyda fe yn mynd i gemau rygbi a chriced yno. Roedd e'n ysgrifennydd clwb cefnogwyr Abertawe am flynyddoedd ac yn gyfrifol am gyhoeddi rhaglenni'r gemau am flynyddoedd lawer cyn i rygbi droi'n g锚m broffesiynol.

Ro'n i wedi dewis pwnc arall yn wreiddiol, sef cyfres gomedi Seinfeld, gan fy mod yn dwli arno fe. Ond ar 么l dechrau gwylio sylweddolais y byddwn i'n cas谩u bod yn styc yn y t欧 yn gwylio'r teledu a do'n i ddim eisiau dechrau teimlo resentment tuag at y gyfres ac iddi ddod yn faich yn hytrach nac yn foddhad. Felly roedd yn haws dewis pwnc ro'n i'n gallu ei adolygu gyda llyfr.

Oedd y profiad yn y gadair ddu beth roeddech chi'n ei ddisgwyl?

Oedd! Ond wnes i ddim mwynhau'r adolygu a bod yn onest. Ro'n i'n teimlo y dylwn i dreulio pob eiliad sb芒r yn adolygu ac roedd fel bod n么l yn yr ysgol - yn teimlo bod gen i waith i'w wneud, ddim yn ei wneud, ac wedyn yn teimlo'n euog am beidio 芒'i wneud. Falle bod pobl eraill yn fwy easy-going na fi! Dwi'n berson eitha cystadleuol yn y b么n.

A oedd cystadleuaeth frwd rhwng yr enwogion?

Oedd, dwi'n credu bod. Er fod pawb yn esgus nad oedd na ddim. Roedd yr awyrgylch yn braf ond yn bendant roedd na gystadleuaeth - cystadleuaeth iach wrth gwrs.

Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?

Mae'n eitha da. Dwi'n cofio pethe twp, wastad wedi bod ers pan o'n i'n blentyn. Mae fy mab union yr un peth - yn cofio'r pethe rhyfedda.

Felly, pwy adeiladodd Gastell Caernarfon?

Edward 1af - Edward Longshanks. [Cywir - yr unig un o'r pedwar i gael yr ateb yn iawn!]

Mwy am Steffan Rhodri ...

Wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Cymru ers blynyddoedd, yn enwedig ers chwarae rhan Andy yn y gyfres Con Passionate, mae Steffan Rhodri bellach yn cael ei adnabod drwy Brydain fel Dave y gyrrwr bws yn y gyfres boblogaidd Gavin & Stacey, sydd wedi ei lleoli yn Ynys y Barri.

Er ei lwyddiant ar deledu, mae'r tad i ddau o blant yn dweud ei fod hapusaf yn ei fywyd proffesiynol yn y theatr pan mae'n ymarfer drama lwyfan, sy'n brofiad mwy 'pur ac uniongyrchol' na theledu, meddai. Mae wedi gwneud llawer o waith i Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug - 26 cynhyrchiad hyd yma - ac yn 2000 bu'n gweithio yn Theatr y Globe, Llundain, yn actio yn y Tempest a Two Noble Kings.

Cafodd ei fagu yn Nhreforys 芒 byd y ddrama yn ei waed: roedd ei fam a'i dad yn hoelion wyth cwmni drama Gymraeg Abertawe. Wedi ymddeol daeth ei dad, Glyn Ellis, yn actor proffesiynol a chwaraeodd ran Dan Llywelyn yn Pobol y Cwm.

Dechreuodd Steffan actio pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera fel aelod o Theatr Ieuenctid Cymru a Theatr Gorllewin Morgannwg. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Caerwysg. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Bydd yn ymddangos yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows fel Reg Cattermole, un o gymeriadau'r Ministry of Magic.


Mastermind Plant

Joseff gyda thlws 2009

C'mon Midffild!

Joseff yn sgorio'r marciau uchaf i ennill tlws 2009.

Lluniau

Huw Stephens yn adolygu

Tu 么l i'r llen

Sut mae'r s锚r yn mynd ati i adolygu? Cip ar eu paratoadau munud olaf.

Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill 主播大秀 Cymru ar iPlayer.

Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.