主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhai o aelodau o gast Pantomeim Felinfach O Felinfach i Ohio!
Ydy mae'n dymor y panto eto eleni, ond mae yna un pantomeim yng Nghymru sy'n dra gwahanol i'r gweddill.
  • Ewch i edrych ar luniau o'r cast a'r dawnswyr yn ymarfer ar gyfer Panto Felinfach 2004.

    Os ydych chi'n byw yn nyffryn Aeron, mae'n bur debyg eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gyda phantomeim Nadolig blynyddol Felinfach. Byddwch yn gwybod i beidio disgwyl Sinderela na Jac a'r Goeden Ffa. Does dim dwy chwaer hyll na gwrach na thywysog, na'r un o'r cymeriadau cyfarwydd - yn hytrach mae gennych gymeriadau hanesyddol sy'n cael eu portreadu gan bobl leol, mewn ffordd ddoniol ac unigryw.

    Rhaid bod yn barod am lawer o j么cs lleol eu naws, llawer o ruthro o gwmpas a rhywbeth ychydig bach yn wahanol, heb anghofio'r b诺ian a'r hisian arferol.

    Mi es i draw i Theatr Felinfach ar ddydd Sul braf o Dachwedd lle roedd y cast a'r dawnswyr yn ymarfer at y perfformiadau ddechrau Rhagfyr, a chefais air gyda Phennaeth y Theatr a Chyfarwyddwr y panto, Dwynwen Lloyd Raggett.

    Dwynwen raggett, Pennaeth y theatr a Chyfarwyddwr y pantomeimPryd ddechreuodd Pantomeim Theatr Felinfach?
    Roedd y Panto yn bodoli cyn i'r theatr agor rhyw 32 mlynedd yn 么l felly mae wedi bod yn mynd ers yn hirach na hynny.

    Mae Pantomeim Felinfach yn seiliedig ar stori 芒 naws leol iddi bob blwyddyn, wedi ei haddasu i sgript gyda chriw o actorion lleol, dwedwch ychydig am gefndir y panto eleni.
    Mae yna brosiect sgwennu cymunedol yn gweithio ar hyn bob blwyddyn. Mae gr诺p o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd, a rydw i'n arwain y syniadau. Mae rhyw chwech neu saith syniad yn dod i'r wyneb, wedyn rydyn ni'n dewis stori neu elfen o'r syniadau hynny.

    Mae'r t卯m wedyn yn mynd ati i ddatblygu'r syniadau yna a'u troi nhw i mewn i sinopsis, ac yna yn addasu'r sinopsis i mewn i sgript. Mae'r cyfan yn dod ataf i trwy e-bost a wedyn rydw i'n ei olygu ac yn ysgrifennu geiriau'r caneuon ac yn y blaen. Mae'n gyfle gwych i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau sgrifennu a pherfformio.

    Beth am y stori eleni? Rhowch flas i ni o'r plot heb ddatgelu gormod!
    Mae'r stori yn mynd i America eleni i Oakhill yn Ohio. Mae'n seiliedig ar yr hanes bod llawer o Gymry wedi ymfudo yno yn y 19eg ganrif.

    Mae'r stori yn America hefyd yn plethu gyda hanes Plas y Trawscoed, a down ar draws Iarll y Trawsgoed sy'n gas i'r werin bobl. Mae'n gwahardd hela ac yn penodi cipar o'r enw Joseph Butler. Mae Wil Cefn Coch, cymeriad lleol, ma's yn hela ac yn saethu'r cipar yn ddamweiniol, ac yna mae'n ceisio ffoi, gydag ymgyrch yn cychwyn i geisio ei ddal. Mae hyn yn mynd 芒'r cast i grombil cloc a nifer o sefyllfaoedd doniol eraill trwy geisio helpu Wil.

    Mae cymeriadau cyfarwydd y panto gan gynnwys y Ficer, y Sgweier, Dalis a Dalis a mwy yn rhan o'r cast hefyd wrth gwrs.

    Faint o ymarfer a gwaith paratoi sydd yn mynd i mewn i'r Pantomeim yn flynyddol?
    Rydyn ni'n ymarfer am gyfres o bump dydd Sul am bum wythnos cyn y perfformiadau a dwy noson yn yr wythnos bob wythnos. Mae yna ddeg perfformiad i gyd, tri ar y dydd Sadwrn cyntaf - Rhagfyr 4ydd, un bob nos yn yr wythnos ac yna dau ar y Sadwrn olaf, sef Rhagfyr 11.

    Os ydych chi am bantomeim ychydig yn wahanol - dyma'r un i chi. Gyda'r dynion drwg arferol, Tegi Wegi y dylwythen deg, y Ficer, y Sgweier a mwy, byddwch yn siwr o adael y theatr wedi cael profiad gwahanol iawn.

    Gan: Elin Wyn.

  • Hanes Wil Cefn Coch ar ein safle Enwogion lleol

  • Cyfrannwch

    Laura Richards o Gaerfyrddin..x
    Maen awesome.. caru fe.. hoff gymeriadau yw dalis a dalis wrth gwrs a tegi wegi..Rwyn gwylio fe pob blwyddyn.. pwb lwc ar un nesaf.. cariad Laura..xxx

    Chris Roberts .Yellowknife ,Canada.
    Cofio gweithio gyda'r criw llwyfan yn yr 80s. Sut gymaint o hwyl. Gobeithio bod y Panto yn dal i fod yn llwyddianus...gwaith arbennig gan Euros Lewis a'r cast...Cofio hefyd yn gorfod fod pen 么l y ceffyl panto ac yn gorfod cario'r sgweir. Lwcis ei fod e ddim yn pwyso llawer. Gobeithio byddaf yn cael gweld Panto Felinfach eto rhyw dydd.

    Carys Haf o Gaio 10 Oed
    Mae Panto Felin Fach yn bril.Rydw i wedi mynd ers o ni yn fabi 2 fis oed. Fy hoff gymeriadau yw Elen,Dalis1+2 ac mae y ddoi grwt na yn ddoniol.
    Rydw i wedi archebu tocyn gyda Gwenfudd (Mamgu)Edrych mlaen ich gweld Dydd Sadwrn y 10fed 4:00y.p Cariwch ymlaen gyda'r Panto da. Hwyl am nawr, Carys Haf xxxxxxxxxx


    Ydych chi erioed wedi gweld pantomeim enwog Felinfach? Beth yw eich barn amdano? Byddwch y cynta' i ddweud eich dweud yma!
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy