主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adar Brith
Trawscoed, lle digwyddodd y saethu.
Wil Cefn Coch

Magwyd: Y Mynydd Bach ger Trefenter a Llangwyryfon


Potsiwr a ffodd y wlad wedi lladd cipar

Mae'n debyg mai trwy ddamwain y lladdodd Wil Cefn Coch un o giperiaid stad y Trawscoed.

Yn sicr, pan aeth allan i hela yng nghwmni'r brodyr Morgan a Henry Jones T欧'n Llwyn yn cario dau ddryll a phastwn, nid oedd gan yr un ohonynt unrhyw fwriad i saethu neb.

Na, clicied y gwn oedd yn ddiffygiol yn 么l yr hanes, ac roedd Wil wedi llithro yn ystod y sgarmes, ond, damwain neu beidio, o gael ei ddal gallai Wil ddisgwyl rhaff o gwmpas ei wddf.

Doedd yr un mainc ynadon yn mynd i gredu gair tyddynnwr tlawd yn erbyn gair gweithwyr y plas.

Yr ergyd farwol

Bore dydd Mercher 28 Tachwedd 1886 oedd hi pan gyrhaeddodd y tri chyfaill Goed Gwern Dolfor.

Trigai'r tri ar y Mynydd Bach yng nghyffiniau Trefenter a Llangwyryfon.

Gwyddent fod perygl i giperiaid fod ar wyliadwriaeth gan i Iarll Lisburne gyflogi tri ohonynt yn ogystal ag un rhan-amser i gadw golwg ar y stad.

Pan gyrhaeddodd y tri herwheliwr Goed Gwern Dolfor, roedd y pedwar ciper wedi dod ynghyd ar 么l clywed s诺n tanio.

Roedd dau o'r ciperiaid, Richard Jones a Joseph Butler, wedi eu denu o Goed Tynberth ac ymunodd James Morgan a'r gweithiwr rhan-amser, Morgan Evans, 芒 hwy.

Gerddi Trawscoed Pan glywsant y ciperiaid yn dynesu, ceisiodd y tri photsier ffoi.

Llwyddasant i gyrraedd Cae Caergwyn, ond roedd y ciperiaid yn dal i'w dilyn. Trodd y tri i weld James Morgan yn eu herio.

Rhybuddiwyd ef i gadw draw ar fygythiad o'i saethu a rhedodd y tri i ffwrdd unwaith eto.

Cyrhaeddodd y tri ardd bwthyn Cwmbyr ac oddi yno llwyddasant i redeg am Gwmbyr-bach.

Erbyn hyn roedd Butler wedi dal i fyny 芒 Morgan ac ar fin gafael yn un o'r tri pan drodd y talaf o'r potsieriaid a saethu Butler.

Llwyddodd James Morgan i ddal un o'r herwhelwyr, Morgan Jones, a beiodd hwnnw Wil am y saethu.

Yr heliwr ar ffo

Canfuwyd fod Butler wedi marw ar unwaith o ganlyniad i un ergyd i'w galon.

Y tebygolrwydd oedd i'r gwn gael ei danio tua throedfedd oddi wrth y ciper.

Cyhuddwyd Morgan Jones yn Llys Bach Llanilar o fod yn gysylltiedig 芒 llofruddiaeth Joseph Butler ac o herwhela, a chadwyd ef yn y ddalfa.

Yna, ildiodd Henry Jones ei hun i'r heddlu a chyhuddwyd ef o'r un troseddau 芒'i frawd.

Bu Morgan Jones yn ffodus. Ym Mrawdlys Gwanwyn Sir Aberteifi ar 7 Mawrth 1869 fe'i cafwyd yn euog o herwhela yn unig a charcharwyd ef am flwyddyn.

Ni chafwyd digon o dystiolaeth i gyhuddo Henry Jones.

Ond ble'r oedd Wil Cefn Coch, neu William Richards?

Doedd pobl y Mynydd Bach ddim yn barod i helpu'r awdurdodau.

Yn wir, aethant ati'n fwriadol i'w guddio. Yn ystod ei gyfnod o guddio a ffoi, trodd Wil Cefn Coch yn arwr gwerin gwlad.

Y chwedl yn tyfu

Erbyn hyn mae ffaith a chwedl wedi mynd yn un, ond mae'r hanesion, boed wir neu gau, yn dal yn fyw yn y fro.

Nid yw'n debygol i Wil adael yr ardal am ddau neu dri mis ar 么l mynd ar ffo.

Dywedir amdano unwaith iddo guddio mewn melin. Ar y pryd roedd olwyn y felin yn troi wrth i'r ffermwr falu 欧d, ond yr hyn na wyddai'r heddlu oedd bod Wil yn cuddio ym mhwll y rhod.

Bryd arall, clywyd bod Wil mewn ffermdy cyfagos lle'r oedd gwraig y fferm newydd eni baban.

Chwiliwyd y fferm yn drwyadl, ond ni chafwyd hyd iddo - roedd Wil yn gorwedd o dan y dillad yn y gwely lle'r oedd y fam yn bwydo'i baban newydd-anedig.

Clywyd fod Wil ar ymweliad 芒'i gartref a chyrhaeddodd y plismyn gan ofyn i'w fam a oedd ei mab yno. Mewn rhwystredigaeth gwaeddodd honno, 'Ydi!' a chodwyd cymaint o ofn ar yr heddlu fel i un plismon faglu, disgyn a thorri ei goes gan adael i Wil ddianc unwaith eto.

Mae'n debyg mai'r g诺r a drefnai symudiadau Wil o ddydd i ddydd oedd Dafydd Joseph, trwsiwr watsys o Dregaron.

Wrth fynd i wneud ei waith o d欧 i d欧 byddai Dafydd yn trefnu gyda'r trigolion pa bryd i ddisgwyl ymweliad gan Wil.

Ffoi i America

Yn y diwedd cafodd Wil ddigon ar fyw bywyd ffoadur.

Dosbarthwyd posteri'n cynnig gwobr o ganpunt i unrhyw un a fyddai'n cynnig gwybodaeth a allai arwain at arestio Wil.

Roedd pethau'n poethi, felly trefnodd Dafydd Joseph ynghyd 芒 John Jones, bardd lleol, i symud Wil ar draws gwlad i Lerpwl ac ar long i America.

Cerdded wnaeth y tri, gyda Dafydd Joseph wedi defnyddio colur i weddnewid ymddangosiad Wil, ond wedi cyrraedd o'r diwedd i'r dociau yn Lerpwl sylweddolwyd fod pob llong yno o dan wyliadwriaeth.

Yr unig ffordd allan o'r wlad oedd gwisgo Wil mewn dillad menyw, a thrwy hynny y llwyddodd i fyrddio'r llong.

Glaniodd Wil yn Pennsylvania a gwneud ei ffordd i Ohio lle'r oedd gwladfa sylweddol o Gymry yn Oak Hill, llawer ohonynt o Sir Aberteifi.

Newidiodd Wil ei enw a chafodd waith yno fel gwas fferm.

Priododd 芒 Gwyddeles oedd yn forwyn yno, ond ni fu Wil heb ei drafferthion yn y wlad bell ychwaith.

Yn ystod dadl mewn bar, taflodd gyllell at ddyn arall, ond yn ffodus ni ddaeth yr awdurdodau ag unrhyw achos yn ei erbyn.

Marw ymhell

Yn Oak Hill y bu farw Wil, ac mae nifer o Gymry wedi ymweld 芒'i fedd erbyn hyn.

Roedd ef a'i wraig yn ddi-blant felly doedd dim olyniaeth.

Hyd ei farw, byddai Wil yn dal i ysgrifennu at ei deulu a'i ffrindiau ar y Mynydd Bach ac, yn wir, mewn llythyr oddi wrth un o'r ffrindiau hynny y clywodd Wil fod yr heddlu wedi llwyddo i ganfod ym mhle'r oedd a'u bod yn ystyried danfon uwch swyddog drosodd i'w ddwyn yn 么l.

Atebodd Wil, 'Byddaf yn falch iawn o groesawu unrhyw un o'r hen wlad,' ond ychwanegodd y dylai'r swyddog a ddeuai draw ffarwelio 芒'i ffrindiau oll gan na wn芒i byth fynd adref wedyn.

Mae'n rhaid bod y swyddog wedi clywed am hyn oherwydd ni fentrodd neb draw i Oak Hill i geisio estraddodi Wil Cefn Coch.

  • Hanes Wil Cefn Coch a Phantomeim Felinfach (2004)

    Lyn Ebenezer


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy