主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Cofeb y beirdd ar y Mynydd Bach. Mae'r ardal yn enwog am bedwar bardd a fagwyd yma -T Hughes Jones, Prosser Rhys, B T Hopkins a J M Edwards
Prosser Rhys

Ganwyd: 1901

Magwyd: Trefenter, Ceredigion

Addysg: Ychydig o addysg ffurfiol


Bardd, golygydd, ac awdur pryddest ddadleuol am berthynas hoyw

Yn ystod ei oes fer ennillodd E. Prosser Rhys enw fel bardd telynegol, golygydd galluog a chyhoeddwr arloesol.

Roedd ei iechyd fregus yn gyfrifol, i raddau helaeth, am y ffaith mai dim ond un gyfrol o'i gerddi a ymddangosodd tra oedd ar dir y byw, a chyhoeddwyd hynny ar y cyd 芒 John Tudor Jones, neu John Eilian i roi ei enw barddol iddo.

Gwaed Ifanc oedd teitl y gyfrol hon o un ar bymtheg o gerddi gan Rhys a thri deg gan John Eilian ac fe'i chyhoeddwyd ym 1923.

Pryddest ddadleuol

Flwyddyn yn ddiweddarach, ennillodd Prosser Rhys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei bryddest 'Atgof'.

Gan fod y gerdd hon yn ymwneud 芒 theimladau gwrywgydiol llanc ifanc, crewyd gynnwrf ac adwaith cryf yn ei herbyn ymysg rhai darllenwyr mewn gwlad oedd, yn enwedig mewn cylchoedd capelog, yn bur homoffobig, a pharodd i lawer fethu gweld ei rhinweddau llenyddol amlwg.

Mae'n hysbys pwy oedd y dyn ifanc mae'r bryddest yn cyfeirio ati.

O'r efail i'r gadair olygyddol

Ganwyd Edward Prosser Rhys ym 1901 yn Nhrefenter yn Sir Aberteifi, yn fab i of y pentref, David Rees.

Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol: torrodd ei iechyd pan oedd yn un ar bymtheg oed ac, ar 么l cyfnod gartref, aeth i weithio ar The Welsh Gazette yn Aberystwyth fel newyddiadurwr.

Toc wedyn fe'i hapwyntiwyd yn olygydd Baner ac Amserau Cymru gyda swyddfeydd yn 53 North Parade yn Aberystwyth, gan aros yn y swydd honno hyd ddiwedd ei oes.

Annog llenorion ifanc

Yn rhinwedd ei swydd fel golygydd y papur hynafol ond poblogaidd, gwnaeth Prosser Rhys gryn dipyn i annog beirdd i farddoni a chyhoeddi eu gwaith, ac ymddangosodd cerddi a rhyddiaith nifer o awduron blaenllaw ar ei dudalennau.

Ar yr un pryd, gweithiodd fel cyhoeddwr ac o'i wasg, sef Gwasg Aberystwyth, ymddangosodd llu o lyfrau Cymraeg o bwys.

Wedi iddo farw ym 1945 prynwyd y wasg gan J. D. Lewis o Landysul, sef Gwasg Gomer yn ddiweddarach.

Ei gerdd enwocaf

Roedd y prysurdeb hwn, ei iechyd gwael a'r rhagfarn yn ei erbyn fel bardd, mwy na thebyg, wedi llesteirio ar ei awen. Cyhoeddwyd Cerddi Prosser Rhys, sy'n cynnwys saith cerdd ar hugain (a nifer o'i gyfrol gynharach) ym 1950.

Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi yn y gyfrol hon yn delynegion, gan gynnwys y gerdd enwog 'Cymru', sydd ymhlith cerddi gwladgarol gorau yr ugeinfed ganrif.

Claddwyd E.Prosser Rhys yn y fynwent oddi ar Heol Llanbadarn yn Aberystwyth.

Gwelir cof-golofn iddo, ynghyd 芒 J.M.Edwards a B.T.Hopkins, ger ffordd rhwng Trefenter a Blaenpennal ar y Mynydd Bach yng Ngheredigion.

Meic Stephens

  • Mwy am Prosser Rhys o bapur bro Llais Aeron


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy