主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Cwm Rhymni

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Terfysgoedd yn Ne Affrica wedi i gricedwyr o Loegr fynd yno ar daith answyddogol.
  • Rhyddhau Nelson Mandela wedi 27 mlynedd yn y carchar.
  • F. W. de Clerk yn codi'r gwaharddiad ar yr ANC ar 么l 30 o flynyddoedd.
  • Llog morgeisi yn codi i 15.4%.
  • Terfysg yn Llundain ar y diwrnod cyn i Dreth y Pen gael ei gyflwyno.
  • Gwaethygodd y broblem pan ruthrodd plismyn ar geffylau at dorf o 300,000 yn Sgw芒r Trafalgar.
  • Y Llywodraeth yn rhoi 2.2m. i ymchwilio i'r clefyd BSE.
  • Miloedd yn streicio am chwarter awr i ddangos eu cefnogaeth i'r gweithwyr ambiwlans.
  • Ffrainc yn gwahardd mewnforio cig eidion o Brydain, a bu 'rhyfel ^wyn' rhwng Ffrainc a Phrydain.
  • Iraq yn ymosod ar Kuwait.
  • Ym mis Tachwedd, wedi brwydro mewnol yn ei phlaid, Margaret Thatcher yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog, a John Major yn ei holynu.
  • David Hunt yn olynu Peter Walker fel Ysgrifennydd Cymru.
  • Llifogydd ym Mae Kinnmel a Thywyn, Clwyd. 5,000 o bobl yn gorfod gadael 2, 800 o dai wedi i'r wal f么r ddymchwel.
  • Cau gwaith dur Brymbo a cholli 1,000 o swyddi.
  • Agor y fferm wynt gyntaf ym Mae Ceredigion.
  • Cymru yn fwy dibynnol ar gwmn茂au tramor i greu gwaith, 130 o Ogledd America, 50 o'r Almaen a 40 o Siapan.
  • Cymraeg yn bwnc craidd mewn ysgolion Cymraeg ac yn bwnc sylfaen yn y gwedd ill.

Archdderwydd               Ap Llysor

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Gwythiennau'
Enillydd: Myrddin ap Dafydd
Beirniaid: T. Llew Jones, Gerallt Lloyd Owen, Emrys Roberts
Cerddi eraill: Tudur Dylan Jones oedd yr ail. Anfonwyd cywaith gan Dic Jones a'i ddosbarth, dan y ffugenw Lleng, i'r gystadleuaeth.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl wych iawn am feichiogrwydd ei wraig ac am y profiad o ddod yn dad am y tro cyntaf.

Y Goron

Testun: Casgliad o gerddi ar y testun 'Gwreichion'
Enillydd: Iwan Llwyd
Beirniaid: Alan Llwyd, Geraint Bowen a T. James Jones
Cerddi eraill: Y tu 么l i Iwan Llwyd yr oedd Robin Llwyd ab Owain ac Einir Jones.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Mae Iwan Llwyd yn mynd 芒 ni yn 么l i flasu eto y chwerwder a'r siom a brofwyd un mlynedd ar ddeg ynghynt wedi i Gymru droi ei chefn ar Ddatganoli. Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd. Yn y cerddi hyn y mae Iwan Llwyd yn ceisio canu'r genedl yn 么l i'w bodolaeth. 'Roedd angen cenedl newydd arnom ar 么l claddu'r hen genedl yng nghynhebrwng y cynllun o blaid Datganoli. Mae'n gweld plentyn yn cael ei genhedlu mewn angladd yn y gerdd 'Angladd', hynny yw, yr oedd Cymru newydd yn codi o arch yr hen Gymru. Enw'r plentyn yw Rhys, gan awgrymu mai Rhys Gethin, ffugenw arweinydd Meibion Glynd^wr, oedd y plentyn hwnnw, plentyn cyntafanedig y Gymru newydd.

Y Fedal Ryddiaith

Cyfrol o straeon byrion
Enillydd: Neb yn deilwng

Tlws y Ddrama

Drama hir 
Enillydd: Neb yn deilwng

 
Tlws y Cerddor

Michael John Charnell-White 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy