主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Gaer Fechan Olaf

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

1914-1937 Y Gaer Fechan Olaf

Erbyn 1914 'roedd technoleg y ffilm wedi datblygu, ac 'roedd yn barod i gofnodi rhith a realaeth, ffantasi a ffaith. 'Roedd yn barod i gofnodi digwyddiadau hanesyddol yr ugeinfed ganrif. 'Roedd ffilm wedi rhoi rhyfel y Boeriaid ar gof a chadw ond 'roedd ar fin creu cofnod parhaol o un o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif.

Ym mis Medi 1914 aeth Franz Ferdinand, nai Ymerawdawr Awstria a Brenin  Hwngari, i Sarajevo, prifddinas Bosnia. Saethwyd Franz Ferdinand gan  genedlaetholwr ifanc. Lladdodd yr un fwled honno dros ddeng miliwn o bobl. 'Roedd blynyddoedd o genedlaetholdeb, imperialaeth a militariaeth yn Ewrop ar fin ffrwydro'n rhyfel. Mudiad cudd o Serbia oedd y tu 么l i'r weithred o ladd Fraz Ferdinand ac ymhen mis wedi'r llofruddiaeth aeth Serbia ac Awstria-Hwngari i ryfel ar 28 Gorffennaf 1914.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

1914 1915 1916 1917 1918 1919 1920 1921 1922 1923 1924 1925 1926 1927
1928 1929 1930 1931 1932 1933 1934 1935 1936 1937
Ar Awst 1 datblygodd yn rhyfel ewropeaidd wedi i Rwsia gefnogi Serbia, a'r Almaen gefnogi Awstria. Ymunodd Ffrainc yn y rhyfel ar ochr Rwsia. 'Roedd yn rhaid i'r Almaen ymosod ar Ffrainc drwy Wlad Belg. 'Roedd Prydain wedi ymrwymo i amddiffyn gwlad Belg rhag goresgynwyr. Oherwydd i'r Almaen wrthod parchu niwtraliaeth gwlad belg, erbyn Awst 4, 'roedd Prydain wedi ymuno 芒'r rhyfel.

'Gyda Phrydain yn paratoi ar gyfer y Rhyfel, gohiriwyd Eisteddfod Bangor ym 1914. Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalch茂o yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.

Llawer Mab a Gymerth Glef

Dysgodd bechgyn cefn-gwlad Cymru grefft newydd sbon. Er na chyhoeddwyd pryddest 'Mab y Bwthyn' gan Cynan hyd Eisteddfod Caernarfon ym 1921, mae'n rhoi hanes yr hyn a ddigwyddodd i filwr diniwed o L^yn o'r cyfnod pan ymuna 芒'r fyddin hyd at ei ymateb i'r gyflafan yn ffosydd Ffrainc. Penodwyd Lloyd George yn Weinidog Arfau ym 1915, a ffurfiodd adran newydd sbon yn y Fyddin ar gyfer y Cymry. Ar 么l iddo ddarbwyllo'r capeli fod y Rhyfel yn un cyfiawn, 'roedd uffern Ffrainc a Fflandrys yn llawn o s^wn iaith y nefoedd.

ymlaen...



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy