主播大秀

Gai Toms

Gai Toms

Un o artistiaid mwyaf talentog a hawddgar y sin Gymraeg, gyda thraciau syfrdanol gwerin, reggae a roc.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ar 么l bod yn aelod o'r band hynod lwyddiannus Anweledig ers tair mlynedd, dechreuodd Gai deimlo'r awch i gyfansoddi caneuon acwstig eu naws. Wedi'i ddylanwadu gan yr athrylith Meic Stevens, dechreuodd Gai gyfansoddi am gymeriadau yn ei filltir sgw芒r dan yr enw ffug, Mim Twm Llai.

Dros y blynyddoedd nesaf, cyfansoddodd Mim Twm Llai glasuron anthemig fel Sunshine Dan, Tafarn Yn Nolrhedyn ac Wbancrw. Mae'r caneuon yn arddangos dawn unigryw Gai i adrodd straeon lliwgar am gymeriadau a digwyddiadau, dros felod茂au hawdd a chofiadwy.

Aelodau

  • Gai Toms: Pob Dim
  • Euron 'Jos' Jones: Git芒r a Phedal Ddur
  • Gary Richardson: Bas
  • Philip Lee Jones: Drymiau, Ukelele, Git芒r
  • Elaine Gelling: Lleisiau Cefndir

Mae Gai wedi rhyddhau pedwar albwm o dan yr enw Mim Twm Llai sy'n cynnwys O'r Sbensh, Straeon y Cymdogion, Yr Eira Mawr a Goreuon Mim Twm Llai. Mae'r albymau'n adlewyrchu cyfnodau gwahanol o fywyd Gai, ac wedi rhyddhau Yr Eira Mawr roedd diwedd Mim Twm Llai, fel prosiect, ar y gorwel. Cyhoeddwyd albwm o'r goreuon fel ffarwel, gan fanteisio ar y cyfle i symud ymlaen a defnyddio'i ffug enw arall - Gai Toms (Gareth Thomas).

Yn 2007 rhyddhawyd Rhwng y Llygru a'r Glasu oedd yn canolbwyntio ar them芒u yn ymwneud 芒'r amgylchedd, a'r albwm cyntaf iddo ryddhau ar ei label ei hun, Sbensh.

Mae angerdd, tynerwch, emosiwn ac ias drwy holl draciau Gai wedi'u cyflwyno dros felod茂au cofiadwy ac weithiau anthemig - a dyna pan r'yn ni'n ei garu.

Ar hyn o bryd mae Gai yn gweithio ar ei albwm Saesneg gyntaf - Ffish Ffresh.

Lynsey Anne

Newyddion

Gwobrau RAP 2009 - yr enillwyr

3 Ebrill 2009

Enillwyr Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009

Goreuon Mim Twm Llai

30 Rhagfyr 2008

Mae label Rasal wedi rhyddhau casgliad 'Goreuon Mim Twm Llai'

Gai Toms ar Daith

08 Hydref 2008

Dros y misoedd nesaf, mae Gai Toms am fod yn teithio led-led y wlad.

Adolygiadau

Adolygiad CD Gai Toms

11 Awst 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am Gai Toms - Rhwng y Llygru a'r Glasu?

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.