主播大秀

Meic Stevens

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Ysbryd Solva - Sesiwn acwstig arbennig gan Meic Stevens ar gyfer sioe Huw Stephens ar C2 Radio Cymru.

Ganwyd Meic Stevens yn Solva, Sir Benfro ym 1942. Recordiodd sengl i Decca ym 1965, ac ar 么l cyfnod yn byw ym Manceinion, symudodd n么l i Gymru ym 1967.

Recordiodd sawl EP i Dryw, Newyddion Da a Sain rhwng 1968 a 1971, a rhyddhawyd dwy EP fel aelod o'r Bara Menyn ym 1969.

Ym 1970 rhyddhawyd Outlander gan Warner Bros, ei "magnum opus". Yn fflop masnachol ar y pryd, erbyn heddiw mae'n cael ei gydnabod fel clasur o'r cyfnod. Fe'i dilynwyd gan Gwymon (Dryw, 1972), albwm sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel Gwely Gwag, Merch O'r Ffatri Wl芒n a Daeth Neb Yn 脭l.

Symudodd Meic i fyw i Lydaw ym 1974. Fe ddychwelwyd ym 1977, a recordio Gog (Sain, 1977), ei albwm gorau yn 么l rhai. Ym 1978 ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer yr opera roc Dic Penderyn a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae Caneuon Cynnar Rhif 1 (Tic Toc, 1981) yn gasgliad gwych o'i hen ganeuon wedi ei recordio o'r newydd.

Hefyd yn 1981, rhyddhawyd cas茅t o ganeuon newydd yn Saesneg gyda'r Cadillacs i gyd-fynd gyda thaith i Lydaw, Cider Glider (The Farnham Sessions). Ail ryddhawyd hon ar Voodoo Blues: 1979-92 gan Blue Tit ym 1994 gyda thraciau ychwanegol.

Mae Nos Du, Nos Da (Sain, 1982) yn glasur, sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel M么r O Gariad, Bobby Sands a Dic Penderyn. Roedd Git芒r Yn Y Twll Dan Star (Sain, 1983) yn cynnwys caneuon o'r opera roc coll Hirdaith A Chraith Y Garreg Ddu. Defnyddiodd y Cadillacs unwaith eto ar gyfer recordio Lapis Lazuli (Sain, 1985) sy'n cynnwys Erwan, un o'i ganeuon mwyaf prydferth.

Rhyddhawyd Gwin A Mwg A Merched Drwg ym 1987 ar gas茅t yn unig. Roedd aelodau'r band yn cynnwys rhai o gerddorion gorau sesiwn Llundain, gyda Brian Godding, gynt o Blossom Toes, yn eu mysg. Nid yw hwn, na'r ddau albwm blaenorol, ar gael ar CD.

Symudodd label o Sain i Fflach ar gyfer Bywyd Ac Angau yn 1989. Roedd hon yn albwm dwyieithog ac yn fwy gwerinol ei naws. Recordiwyd 'Ware'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur) yn Stiwdio Les, Bethesda, a hon oedd ei CD cyntaf, rhyddhawyd gan Sain ym 1991. Dilynwyd hwnnw gan Er Cof Am Blant Y Cwm ar Crai, sy'n cynnwys y g芒n anfarwol o'r un enw.

Recordiwyd Meic Stevens Yn Fyw (Sain) ym Mhabell Swroco yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ym 1995 - perfformiad a recordiad gwych; fe'i rhyddhawyd ar gas茅t yn unig.

Ysgrifennwyd rhan helaeth o'r caneuon oddi ar Mihangel (Crai) gyda Rob Mills. Ar y cyfan, roedd hon yn albwm siomedig.

Rhyddhawyd Ysbryd Solva (Sain) yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2005, ac yn yr un flwyddyn recordiwyd Meic A'r Gerddorfa yn Neuadd Y Brangwyn Abertawe a Neuadd Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 主播大秀.

Erbyn Icarws (Sain, 2007), roedd Meic yn cydweithio unwaith eto gyda Geraint Jarman. Fel Caneuon Cynnar Rhif 1 ac Ysbryd Solva, mae hon yn gasgliad o'i hen ganeuon wedi eu recordio o'r newydd.

Recordiwyd An Evening With Meic Stevens yn 2007 yn fyw yn Yr Half Moon, Putney, Llundain, ar gyfer Sunbeam. Rhyddhawyd DVD o'r gyngerdd, y cyntaf gan y dewin o Solva.

Yn 2008, cafodd ei albwm Gwymon ei ail-gyhoeddi ar label Sunbeam gyda dwy drac byw yn ychwanegol at y caneuon ar yr albwm gwreiddiol.

Yn 2010 cyhoeddodd Sain yr albwm, Love Songs. Gyda'r caneuon oll yn Saesneg, ysgrifennwyd llawer ohonynt pan oedd Meic yn lanc 18 oed yn 1959.

Yn Awst 2011, cyhoeddwyd ei hunangofiant dadleuol diweddaraf, 'Mas o 'Ma'.

Gari Melville

Discograffeg

  • Outlander (Warner Bros) 1970
  • Gwymon (Dryw) 1972
  • Gog (Sain) 1977
  • Caneuon Cynnar Rhif 1 (Tic Toc) 1979
  • Cider Glider (The Farnham Sessions) (Tic Toc) 1981
  • Nos Du, Nos Da (Sain) 1982
  • Git芒r Yn Y Twll Dan Star (Sain) 1983
  • Lapis Lazuli (Sain) 1985
  • Gwin A Mwg A Merched Drwg (Sain) 1987
  • Bywyd Ac Angau (Fflach) 1989
  • 'Ware'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur) (Sain) 1991
  • Er Cof Am Blant Y Cwm (Crai) 1993
  • Meic Stevens Yn Fyw (Sain) 1995
  • Mihangel (Crai) 1997
  • Ysbryd Solva (Sain) 2002
  • Meic A'r Gerddorfa (Sain) 2005
  • Icarws (Sain ) 2007
  • An Evening With Meic Stevens (Sunbeam) 2007
  • Gwymon (Sunbeam) 2008
  • Love Songs (Sain) 2010

Casgliadau Pwysig

  • Dim Ond Cysgodion : Y Baledi (Sain) 1992
  • Voodoo Blues: 1979-92 (Blue Tit) 1994
  • Ghost Town (Tenth Planet) 1997
  • Disgwyl Rhywbeth Gwell I Ddod 3 CD (Sain) 2002
  • September 1965: The Tony Pike Sessions (Tenth Planet) 2002
  • Rain In The Leaves:The EP's Volume 1 (Sunbeam) 2007
  • Sackcloth And Ashes: The EP's Volume 2 (Sunbeam) 2007

Newyddion

Sesiwn Fawr Dolgellau '07

Ebrill 15 2006

Casgliad Newydd Furries

11 Tachwedd 2004

Sesiynau

Meic Stephens

Sesiwn Acwstig Meic Stevens

04 Chwefror 2011

Sesiwn Acwstig Meic Stevens ar gyfer sioe Huw Stephens.

Adolygiadau

Adolygiad CD Meic Stevens, Icarus

15 Hydref 2007

Beth yw barn ein adolygwyr am "Icarws"?

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Parti "foam" Maes B, albym newydd Meic Stevens a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.