主播大秀

Geraint Lovgreen

Geraint Lovgreen

Dychanwr heb ei ail sydd heb gymryd ei hun o ddifrif ers dros 25 o flynyddoedd.

Aelodau

  • Geraint Lovgreen: Llais/allweddellau
  • Owen Owens: Drymiau
  • Iwan Llwyd: Git芒r fas
  • Elwyn Williams: Git芒r
  • Kevin Jones: Git芒r
  • Huw Wirion: Git芒r
  • Bari Gwilliam: Trymped
  • Owain Arwel Davies: Tromb么n
  • Gwil John, Edwin Humphreys, Huw Lloyd Williams ac Einion Gruffudd: Sacsoffonau

"Pump ar hugain oed a dwi'n teimlo'n hen..." oedd cytgan Geraint Lovgreen n么l yn 1981 - ond dydy hynny ddim wedi'i rwystro rhag barhau i berfformio'n gyson ers hynny.

Synau hapus adran bres yr Enw Da a geiriau dychanol y prif ganwr yw dwy elfen unigryw'r gr诺p, gydag ychydig o faledi mwy difrifol, yn cynnwys Nid Llwynog oedd yr Haul, a enillodd wobr C芒n i Gymru yn 1982 i Geraint Lovgreen fel cyfansoddwr, gyda geiriau gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd. Yn chwarae'r bas yn y gr诺p mae Prifardd arall, Iwan Llwyd, sydd hefyd wedi cyfansoddi nifer o'u caneuon mwy barddonol eu naws.

Mae dylanwadau grwpiau a cherddoriaeth yr 80au i'w clywed yn eu sain; ac fel ffasiwn yr 80au, dyma gr诺p sydd yn cael cyfnodau o boblogrwydd mawr o dro i dro, yn enwedig fel band byw - gyda seid-lein arbennig yn chwarae mewn priodasau.

Gyda chaneuon crafog, doniol fel Dwi'm Isio Mynd i Sir F么n, a Dwi'n Cael Fy Stalkio Gan Si芒n Lloyd, mae hiwmor yn elfen allweddol yn eu caneuon a'u perfformiadau byw.

Rhyddhaodd Geraint Lovgreen a'r Enw Da albwm newydd, 'Busnes Anorffenedig' ar label Sain yn 2008. Dychwelodd ei gyfres, Geraint Lovgreen ar Enw'r G芒n i Radio Cymru yn Awst 2011.

Dydy Geraint Lovgreen a'r Enw Da ddim wedi'u cymryd eu hunain o ddifrif erioed, ond eto maen nhw'n dal i chwarae a recordio bron i ddeng mlynedd ar hugain ers eu sefydlu.

Newyddion

Beirdd V Rapwyr

26 Gorffennaf 2006

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...

Sesiwn Unnos 2

Mae Lisa J锚n am ymuno efo Geraint Lovgreen a'r Enw Da am noson yn stiwdios y 主播大秀 i geisio sgrifennu, recordio a rhyddau pedair o ganeuon mewn un noson!


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.