|
Newidiwyd diwethaf:
31
Mawrth
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am Angola ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp D: v Portiwgal 11 Mehefin 2000 BST, Cologne v Mecsico 16 Mehefin 2000 BST, Hanover v Iran 21 Mehefin 1500 BST, Leipzig
Bydd Angola yn edrych ymlaen yn arw at y gêm yn erbyn eu cyn feistri trefedigaethol, Portiwgal, yn enwedig o gofio mai dyma fydd eu gêm gyntaf erioed ar brif lwyfan pêl-droed y byd.
A bydd y Palancas Negras (yr Impalod Duon) yn awyddus i anghofio'r ddwy gêm blaenorol rhwng y ddwy wlad.
Llwyddodd Portiwgal i'w chwalu 6-0 yn Lisbon ym 1989.
Ac yn 2001 bu rhaid i'r dyfarnwr ddod â'r gêm i ben yn gynnar wedi Angola, oedd yn colli 5-1 ar y pryd, weld pedwar chwaraewr yn derbyn y cerdyn coch!
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma'r tro cyntaf erioed i Angola gyrraedd y rowndiau terfynol.
Ni chymrodd y wlad unrhyw ran yng ngemau rhagbrofol Affrica ar gyfer Cwpan y Byd tan pencampwriaeth 1986.
A synnwyd y byd pêl-droed wrth iddynt sicrhau eu lle yn Yr Almaen gan drechu Nigeria a Zimbabwe yn eu grŵp.
Sêr y tîm: Yr ymosodwr a'r capten, Akwa, sydd â'r record am y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad. Akwa rwydodd y gôl holl bwysig yn erbyn Rwanda sicrhaodd le Angola yn Yr Almaen.
Wedi treulio cyfnod â Benfica tra'n ei arddegau, symudodd i Qatar lle mae'n parhau i ennill ei gyflog â chlwb Al Wakra.
Mae ymosodwr Benfica, Mantorras, wrthododd gynnig i ymuno ag Internazionale tra'n ei arddegau, wedi ei gymharu â phrif seren Affrica Portiwgeaidd, Eusebio.
Wedi gwella o anaf drwg i'w ben-glin, mae gobaith mawr bydd Mantorras, 24, yn disgleirio yn Yr Almaen.
Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd: Mae Angola wedi gwneud yn dda iawn i gyrraedd Yr Almaen ond roedd eu perfformiadau siomedig yng Nghwpan Gwledydd Affrica yn arwyddocaol.
Mae'n debyg bydd y cam i fyny i'r lefel yma o bêl-droed yn ormod i'r tîm a'r gêm yn erbyn Portiwgal bydd uchafbwynt eu twrnament. Ìý
|
|
|
|
|
|