Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Portiwgal ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp D: v Angola 11 Mehefin 2000 BST, Cologne
v Iran 16 Mehefin 1400 BST, Frankfurt
v Mecsico 21 Mehefin 1500 BST, Gelsenkirchen
Wedi sicrhau eu lle yn Yr Almaen yn gymharol hawdd, ac wedi cyrraedd rownd derfynol Ewro 2004, mae disgwyliadau mawr ym Mhortiwgal bydd tîm Luis Felipe Scolari yn perfformio yng Nghwpan y Byd.
Ond bydd angen iddynt geisio sicrhau cysondeb gan fod perfformiadau'r tîm wedi bod yn chwit chwat yn ddiweddar, er enghraifft, wedi gorfod bodloni ar gêm gyfartal 2-2 â Liechtenstein, llwyddodd y tîm i chwalu Rwsia 7-1 tri diwrnod yn ddiweddarach. Hanes yng Nghwpan y Byd: Fel Lloegr, 1966 oedd Cwpan y Byd mwyaf llwyddiannus Portiwgal hyd yn hyn, gyda Eusebio yn ysbrydoliaeth wrth iddynt gyrraedd y rownd gyn derfynol lle'i trechwyd gan y tîm cartref. Dyma'r pedwerydd tro i Bortiwgal gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ac er eu llwyddiant ym Mhencampwriaethau Ewrop yn ystod y ddegawd ddiwethaf, roeddynt yn siomedig yn Siapan a Chorea bedair blynedd yn ôl.
Sêr y Tîm: Wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn dilyn Ewro 2004, penderfynodd Luis Figo ddychwelyd i chwarae dros ei wlad ym mis Mehefin llynedd.
Mae ei berfformiadau dros ei glwb newydd, Internazionale, yn profi fod ei benderfyniad gwreiddiol i ymddeol wedi bod yn un brysiog.
Pedro Pauleta yw prif sgoriwr Portiwgal ond mae ei record ym mhrif bencampwriaethau pêl-droed yn siomedig. Ni lwyddodd i ganfod cefn y rhwyd yn ystod Ewro 2004 a bydd yn gobeithio gwneud yn iawn am hyn yn Yr Almaen.
Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd: Mae'n anodd darogan pa mor llwyddiannus bydd Portiwgal yn Yr Almaen gan ei fod yn ddibynnol ar ba dîm fydd yn troi allan.
Os bydd y tîm gafodd gêm gyfartal â Liechtenstein yn troi allan, byddent yn ei chael yn anodd mynd ymhellach na'r Ariannin neu'r Iseldiroedd yn yr ail rownd.
Ond pe bai'r tîm chwalodd Rwsia 7-1 yn troi allan, mae ganddynt gyfle da i gyrraedd y rownd gynderfynol.
|