|
Newidiwyd diwethaf:
31
Mawrth
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Awstralia ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp F: v Siapan 12 Mehefin 1400 BST, Kaiserslautern
v Brasil 18 Mehefin 1700 BST, Munich v Croatia 22 Mehefin 2000 BST, Stuttgart
Mae cefnogwyr y Socceroos yn dal i ddioddef cur pen wedi'r dathliadau ddilynodd buddugoliaeth Awstralia ar giciau o'r smotyn yn erbyn Uruguay yn y gêm ail gyfle yn Sydney.
A chyda nifer fawr o'u chwaraewyr yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr, mae'n debyg bydd Awstralia'n cael cryn gefnogaeth gan gefnogwyr pêl-droed Ynysoedd Prydain.
Bydd eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Croatia yn siŵr o fod yn un tanllyd o gofio bod cymuned Croataidd enfawr yn ninasoedd mwyaf Awstralia.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma fydd ail ymddangosiad Awstralia yng Nghwpan y Byd, 32 mlynedd wedi iddynt ymddangos yng Nghwpan y Byd Gorllewin yr Almaen ym 1974.
Collodd y Socceroos yn erbyn Gorllewin a Dwyrain Yr Almaen a chasglwyd eu hunig bwynt wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Chile.
Sêr y tîm: Bydd Awstralia bron fel 15ed tîm Ewropeaidd yn Yr Almaen gan fod cymaint o'u chwaraewyr yn ennill cyflog yng nghynghreiriau Ewrop.
Bydd cefnogwyr Caerdydd yn gyfarwydd iawn ag amddiffynnwr NAC Breda, Tony Vidmar, dreuliodd ddau dymor ar Barc Ninian, ac mae Harry Kewell a Brett Emerton yn wynebau cyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed Ynysoedd Prydain.
Ac mae'n anorfod bod y capten, Mark Viduka, chwaraeodd i glwb Dinamo Zagreb yng Nghroatia ac sydd â'i rieni'n hanu o Groatia, yn edrych ymlaen yn arw at y gêm â gwlad ei cyn deidiau.
Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd: Mae'r gallu gan Awstralia i orffen yn yr ail safle yn y grŵp tu ôl i'r ffefrynnau, Brasil, a sicrhau gêm yn erbyn Yr Eidal neu'r Weriniaeth Siec.
O gofio bod un tîm yn synnu'r byd pêl-droed ym mhob twrnament, mae'n ddigon posib mai'r Socceroos fydd y tîm yna yn Yr Almaen.
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|